- Advertisement -
Home Carmarthenshire News Chwiorydd yn codi dros £2,000 ar gyfer Uned Gofal Dwys Sir Gaerfyrddin

Chwiorydd yn codi dros £2,000 ar gyfer Uned Gofal Dwys Sir Gaerfyrddin

0
22
- Advertisement -

Rhedodd y chwiorydd Kim Hawkins a Jenny Slocomb Hanner Marathon Berlin ym mis Ebrill a chodi £2,418 ar gyfer yr Uned Gofal Critigol (ICU) yn Ysbyty Glangwili.

Bu farw mam Kim a Jenny, Sally Hawkins, yn yr uned yn ddiweddar.

Dywedodd Kim: “Mae gwneud Hanner Marathon Berlin wedi rhoi rhywbeth hyfryd inni ganolbwyntio arno ar adeg mor anodd.

- Advertisement -

“Roedd Mam wrth ei bodd yn garddio. Roedden ni eisiau codi arian er cof amdani, ac i ddiolch i bawb a ofalodd mor wych amdani. Roedden ni eisiau i’r arian fynd tuag at ardd cleifion yr Uned Gofal Dwys. Hoffem ddiolch i bawb a’n cefnogodd.”

Dywedodd Nerys Davies, Uwch Reolwr Nyrsio: “Hoffem fynegi ein diolchgarwch mwyaf dwys i Kim a Jenny yn dilyn eu hymdrech anhygoel o redeg Hanner Marathon Berlin i godi arian ar gyfer yr Uned Gofal Dwys er cof am eu Mam annwyl, Sally.

“Bydd yr arian a godwyd gennych yn gwneud gwahaniaeth parhaol i gleifion a theuluoedd yn ystod rhai o’u cyfnodau mwyaf critigol a bregus. Gan bob un ohonom, diolch i chi am eich cryfder, eich haelioni, ac am rannu atgof eich Mam mewn ffordd mor ystyrlon.”

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn ddiolchgar iawn am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff.

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch iwww.hywelddahealthcharities.org.uk

- Advertisement -
Previous articleSisters raise over £2,000 for Carmarthenshire Intensive Care Unit
Next articleCloud Accounting, AI, and Beyond: What’s Next for Welsh Entrepreneurs?
X
X
Skip to content