- Advertisement -
Home More News Local News Cynlluniau ar gyfer Carnifal Nadolig rhithwir cyntaf Llanelli

Cynlluniau ar gyfer Carnifal Nadolig rhithwir cyntaf Llanelli

0
32
- Advertisement -

Ni fydd Carnifal Nadolig Llanelli yn cael ei gynnal eleni, a hynny am y tro cyntaf ers 42 mlynedd.

Mae partneriaid wedi cadarnhau bod penderfyniad wedi’i wneud yn unol â chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru a phryderon cynyddol ynghylch lledaeniad coronafeirws sy’n gysylltiedig â digwyddiadau mawr.

Fodd bynnag, mae cynlluniau ar y gweill i ddathlu Nadolig y gorffennol a’r presennol yng ngharnifal rhithwir cyntaf y dref erioed.

- Advertisement -

Ar y noson y byddai’r carnifal wedi cael ei gynnal bydd goleuadau Nadolig y dref yn cael eu cynnau a bydd dathliad ar-lein yn cael ei gynnal ar sianelau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Caerfyrddin a fydd yn cynnwys cerddoriaeth, cyfle i hel atgofion am garnifalau’r gorffennol a her i fusnesau a sefydliadau greu golygfa garnifal ar gyfer gorymdaith rithwir gyntaf y dref erioed.

Mae coeden Nadolig y dref hefyd yn cael ei gosod mewn lleoliad mwy gweladwy ar gyfer pobl sy’n mynd heibio, sef wrth gyffordd brysur Gelli-Onn ger West End.

Mae’r carnifal Nadolig mwyaf yng Nghymru, sef dathliadau Nadolig Llanelli yn ymdrech ar y cyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Tref Llanelli, Cyngor Gwledig Llanelli a Ford Gron Llanelli.

Mae partneriaid wedi mynegi eu siom ynglŷn â’r penderfyniad ond wedi addo cadw ysbryd y Nadolig yn fyw.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rydym wedi gwneud y penderfyniad hwn gyda chalon drom iawn gan ein bod yn gwybod faint mae’r carnifal yn ei olygu i bobl Llanelli. Dyma’r tro cyntaf ers iddo ddechrau dros 40 mlynedd yn ôl ein bod wedi gorfod gwneud penderfyniad fel hyn ac rydym yn siomedig iawn fel rwy’n siŵr y bydd pawb arall.

“Rydym yn benderfynol o wneud rhywbeth arbennig i gadw’r traddodiad yn fyw ac mae cynlluniau bellach ar y gweill i gynnal carnifal rhithwir ar y noson y byddai’r ŵyl draddodiadol wedi’i chynnal.

Dywedodd y Cynghorydd Shahana Najmi, Arweinydd Cyngor Tref Llanelli: “Carnifal Nadolig Llanelli yw’r uchafbwynt yn y calendr i filoedd o bobl ac er bod yn wir ddrwg gennym na allwn gynnal y carnifal traddodiadol eleni, rydym yn falch o fod yn gweithio gyda phartneriaid ar ddathliad ar-lein ac yn gobeithio y bydd pobl yn cymryd rhan yn hwn ac yn ei fwynhau.”

Dywedodd y Cynghorydd Tegwen Devichand, Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, “Mae cenedlaethau o deuluoedd wedi mwynhau carnifal Nadolig Llanelli dros y blynyddoedd ac rydym yn siomedig na allwn gynnal yr orymdaith am y tro cyntaf yn ei hanes. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn deall y penderfyniad ac yn cefnogi’r cynlluniau rydym yn eu datblygu ar gyfer carnifal rhithwir cyntaf y dref.”

Dywedodd Roger Bowen o Ford Gron Llanelli: “Mae noson garnifal Llanelli yn noson bwysig gan ei bod yn codi swm mawr o arian i elusennau lleol ac yn dod â llawer o gymunedau at ei gilydd gyda’r gwaith aruthrol a wneir ar y fflotiau, sy’n gwneud y noson yn ddigwyddiad mor arbennig.  Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn dod o hyd i ffyrdd eraill i roi’n hael a chefnogi achosion da yn ein cymunedau.”

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhyddhau yn ystod yr wythnosau nesaf am y carnifal rhithwir a sut y gall pobl gymryd rhan.

Cadwch lygad ar ffrydiau Facebook a Twitter Cyngor Sir Caerfyrddin.

- Advertisement -
Previous articleLlanelli’s Christmas Carnival to go virtual
Next articleRecycling Centres
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content