
Bydd ysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn cau ar 17 Gorffennaf a bydd darpariaeth gofal plant i blant gweithwyr allweddol rhwng 4 a 12 oed hefyd yn dod i ben ar y dyddiad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir nad yw’n disgwyl i awdurdodau lleol barhau i ddarparu’r gofal plant hwn drwy gydol gwyliau’r haf; a bydd angen gwneud trefniadau gofal plant yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol.
Mae opsiynau amrywiol ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc yn ystod gwyliau’r haf gan gynnwys:
Bydd darpariaeth ar gael i blant agored i niwed a nodwyd drwy’r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant. Bydd cymorth yn seiliedig ar amgylchiadau pob teulu unigol a chysylltir â hwy yn uniongyrchol i wneud y trefniadau angenrheidiol.
Gall gweithwyr allweddol sydd â phlant cyn oed ysgol (0-3) barhau i gael mynediad at Gynllun Cymorth Gofal Plant Coronafeirws hyd at 31 Awst. Y dyddiad cau ar gyfer newydd-ddyfodiaid yw 12 Gorffennaf.
Erbyn hyn gall darparwyr gofal plant preifat ailagor i bob teulu, er y bydd angen rhoi mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. Bydd hyn yn cynyddu ystod y ddarpariaeth i rieni drwy gydol yr haf. Ewch i wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd sydd â rhestr o ddarparwyr sydd wedi cadarnhau eu bod ar agor, neu eu bod yn mynd i agor ar gyfer yr haf. Mae’r rhestr yn cael ei diweddaru’n rheolaidd. I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor, anfonwch e-bost i gwybplant@sirgar.gov.uk neu ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01267 246555.
Erbyn hyn gall pobl o ddwy aelwyd ar wahân ymuno i ffurfio un aelwyd estynedig benodol. Bydd hyn yn caniatáu i ddod at ei gilydd unwaith eto a chefnogi trefniadau gofal. Gall hefyd helpu i gefnogi rhieni sy’n gweithio gyda gofal plant anffurfiol yn ystod yr haf.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i deuluoedd yn ystod y misoedd diwethaf a hoffwn ddiolch iddynt am eu cefnogaeth a’u hamynedd yn ystod y cyfnod hwn.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl staff yn ein canolfannau gofal plant a’n hysgolion yn ogystal â’r holl leoliadau gofal plant preifat am eu holl waith caled a’u hymroddiad wrth ofalu am blant gweithwyr allweddol a phlant agored i niwed yn ystod y pandemig, hebddynt, ni fyddai ein staff rheng flaen wedi gallu parhau i ymateb i’r argyfwng.
“Wrth i’r cyfyngiadau ddechrau codi ac wrth i wyliau’r haf ddechrau, bydd ein canolfannau gofal plant yn awr yn cau. Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn helpu darparwyr gofal plant preifat i ailagor yn ddiogel i bob plentyn; a gall teuluoedd sydd angen gwybodaeth am ofal plant yn ystod misoedd yr haf fynd i’r wefan neu gysylltu â’r tîm yn uniongyrchol i gael cyngor.
“Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi darparwyr a theuluoedd yn ystod y cyfnod hwn.”













