Ddydd Sul, 20 Ebrill, bydd y Diffoddwr Tân Ar Alwad Rhys Fitzgerald o Orsaf Dân Cydweli yn mynd ar daith gerdded Sul y Pasg, 24 milltir, i ymarfer ar gyfer dringo i ben Mynydd Everest yn ddiweddarach eleni.
Bydd y daith gerdded yn cychwyn am 8yb o Orsaf Dân Cydweli ac yn cynnwys sawl stop i ymlacio ar hyd y ffordd, gan gynnwys yng Ngorsaf Dân Llanelli, cyn gorffen yng Ngorsaf Dân Sgeti yn Abertawe.
Mae Rhys yn ymgymryd â’r heriau hyn i helpu i hyrwyddo manteision treulio amser yn yr awyr agored a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei gael ar eich iechyd meddwl a chorfforol a’ch lles, gyda’r bonws o godi arian ac ymwybyddiaeth o dri achos teilwng.
Mae Rhys yn croesawu unrhyw un a hoffai ymuno ag ef ar hyd y ffordd, a dywedodd:
“P’un ai eich bod yn cerdded milltir neu’r 24 milltir llawn, bod yn yr awyr agored sy’n bwysig! Dewch draw i ymuno â’r daith gerdded deuluol hon i godi arian a dod i adnabod rhai o’r diffoddwyr tân sy’n helpu i gadw cymuned Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ddiogel yr un pryd!”
Mae Rhys yn codi arian drwy GoFundMe, a bydd yr holl elw’n cael ei rannu rhwng talu am gost taith Everest, ynghyd â chael ei roi i’w elusennau dewisol.
Mae croeso i bawb ymuno â Rhys ar ei antur, a byddai unrhyw gyfraniad yn cael ei werthfawrogi’n fawr.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a’r llwybr, ewch i: https://www.mawwfire.gov.uk/cym/digwyddiadau/
Pob lwc Rhys!














The 24 mile fundraiser walk has been postponed for the time being. New date to be sent out on Mid and West Wales Fire Service social page.
Sorry for the inconvenience but we look forward to seeing on the walk.
Comments are closed.