- Advertisement -
Home More News Local News DIOGELU CYMRU

DIOGELU CYMRU

0
30
- Advertisement -

A ninnau ar drothwy’r Nadolig, gofynnwn i chi feddwl yn ofalus am
yr hyn y ‘dylech’ ei wneud, yn hytrach na’r hyn y ‘cewch’ ei wneud.

Mae’r coronaferiws yn carlamu trwy Gymru yn gyflymach nac ar unrhyw adeg arall yn y pandemig.

- Advertisement -

Mae ein gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau anferthol. Maen nhw’n gweithio ddydd a nos
i ofalu am bobl a’u diogelu.

Mae’r gweithwyr rheng flaen yn rhoi ein hiechyd a’n gofal ni gyntaf, yn ddyddiol. Ond wrth i’r feirws barhau i ledaenu, tyfu hefyd mae’r pwysau ar ein Gwasanaeth Iechyd. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i amddiffyn y GIG ac achub bywydau.

Mae’r feirws yn cael effaith fawr ar ein gwasanaethau argyfwng hefyd.

Dros yr wythnosau nesaf, mae angen inni sicrhau eu bod nhw yno i ni pan fo gwir angen, a gwir argyfwng.

Diolch o galon i bob un ohonoch sy’n dal ati i ddilyn y rheolau.

Yn anffodus, wrth i nifer yr achosion coronafeirws godi’n uwch eto, a bygythiad ychwanegol
yr amrywiolyn newydd yn ei gwneud yn haws i’r feirws drosglwyddo i eraill, mae mwy fyth o debygrwydd y byddwn ni’n dal y feirws ofnadwy hwn a’i basio i eraill.

I gadw eich hun a’ch hanwyliaid yn ddiogel y Nadolig hwn, ddylech chi ddim cymysgu â
phobl eraill.

I’r rhan fwyaf o bobl bydd y feirws yn achosi salwch ysgafn, ond mae llawer – ein rhieni, ein neiniau a’n teidiau – a allai fynd yn ddifrifol wael, neu farw.

Mae gormod o deuluoedd wedi colli pobl i’r feirws erchyll hwn. Ac os na weithredwn ni nawr, bydd rhagor yn marw.

Bydd ein gweithredoedd ni dros y Nadolig ac yn yr wythnosau a misoedd nesaf yn effeithio
ar Gymru am flynyddoedd.

Dyma erfyn ar bawb i feddwl yn ofalus cyn gweithredu, i ddiogelu ein gwasanaethau brys a’n cyrff cyhoeddus fel eu bod nhw yno i ni pan fo gwir angen.

The post DIOGELU CYMRU first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleLlanelli Goods Shed Celebrates Final Piece In Funding Jig-Saw
Next articleHospital Visiting Restrictions
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content