- Advertisement -
Home More News Local News Diolch Brenhinol i staff BIP Hywel Dda

Diolch Brenhinol i staff BIP Hywel Dda

0
84
- Advertisement -

Derbyniodd aelod o weithlu BIP Hywel Dda alwad ffôn arbennig yr wythnos hon gan Ei Uchelder Brenhinol Dug Caergrawnt.

Roedd Sally Owen, Pennaeth Recriwtio a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gweithlu, o Heol Clarbeston, Sir Benfro, yn falch iawn o dreulio amser yn trafod pa mor rhyfeddol y bu’r flwyddyn ddiwethaf hon i holl weithwyr y Gwasanaeth Iechyd, yn ystod galwad ffôn bersonol gyda Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog William.

- Advertisement -

Meddai Sally: “Roedd Ei Uchelder Brenhinol yn awyddus i glywed am weithio yn y Gwasanaeth Iechyd yma yng ngorllewin Cymru, a throsglwyddodd ei ddiolch i’n holl weithwyr yma yn BIP Hywel Dda. Roedd yn hollol swrreal siarad â’r tywysog – braint enfawr a phrofiad y byddaf yn ei drysori.”

Llwyddodd Sally i rannu ei phrofiad personol o weithio yn y Gwasanaeth Iechyd yn ystod y pandemig COVID-19.

“Roedd Ei Uchelder Brenhinol yn awyddus i glywed am yr ymdrech a’r gwaith sy’n gysylltiedig â rolau cefnogi y tu ôl i’r rheng flaen ac roeddwn yn gallu rhannu gydag ef yr ymdrech enfawr gan ein holl weithlu a thimau corfforaethol” meddai Sally.

Mae wedi bod yn gyflawniad rhyfeddol, diolch i’n gweithlu a staff recriwtio, fod BIP Hywel Dda wedi cynnig cyflogaeth i dros 2,000 o unigolion wrth ymateb i COVID-19, mewn swyddi sy’n amrywio o nyrsys cofrestredig a gweithwyr cymorth gofal iechyd i weithwyr domestig, arlwyo a phorthorion.

“Er ein bod ni wrth ein bodd â’n cyflawniadau, mae’r ffaith ein bod ni wedi cael 4,000 o ymgeiswyr yn dangos y caledi go iawn sy’n wynebu ein cymunedau ar hyn o bryd” meddai Sally.

Roedd gan Ei Uchelder Brenhinol ddiddordeb hefyd mewn clywed am yrfa flaenorol Sally yn gwasanaethu yn y Fyddin Brydeinig rhwng 1990 a 2001.

Esboniodd Sally: “Mae brawdoliaeth y fyddin yn bresennol yn y Gwasanaeth Iechyd hefyd ac mae pandemig COVID wedi gweld pob un yn ymateb i helpu, peidio â mynd i banig yn llygad y storm a theimlad go iawn o berthyn. Dywedais wrth y Tywysog hefyd am ein hymrwymiad at lesiant ac arweinyddiaeth dosturiol wrth i’n gweithlu barhau i wynebu heriau dieithr.”

Anogir staff sydd angen cymorth ychwanegol yn ystod yr amser hwn i siarad â’u rheolwr llinell neu gysylltu â gwasanaethau seicolegol a llesiant staff.

The post Diolch Brenhinol i staff BIP Hywel Dda first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleHywel Dda UHB staff receive Royal thank you
Next articlePACER RAILCAR FOR CYNHEIDRE
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content