
Rhoddir diolch mawr i staff canolfannau gofal Sir Gaerfyrddin a sefydlwyd i ofalu am blant gweithwyr hanfodol yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Yn ystod yr wythnos gyntaf, daeth mwy na 700 o blant i’r canolfannau a gofalwyd amdanynt gan bron 800 o aelodau o staff sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin.
Heb gefnogaeth y penaethiaid a’r holl staff dan sylw, ni fyddai wedi bod yn bosibl sefydlu’r canolfannau hyn mor gyflym ac effeithiol.
Diolchir i’r staff am y ffordd y maent wedi ymateb i’r argyfwng hwn, ac am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth barhaus, a’u parodrwydd i weithio o dan amgylchiadau mor anodd.
Mae hyn yn cynnwys nid yn unig staff ysgolion, ond pawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o wneud y canolfannau yn llwyddiant heb fawr o rybudd – swyddogion o’r adran addysg, staff arlwyo, staff glanhau, a’r holl weithwyr eraill a ddaeth i mewn o adrannau eraill i helpu.
Mae’r adborth gan rieni, y rhan fwyaf ohonynt yn weithwyr iechyd a gofal a swyddogion yr heddlu, wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae’r canolfannau wedi caniatáu iddynt barhau â’u gwaith hollbwysig gan wybod bod eu plant mewn dwylo diogel.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Hoffwn longyfarch yr holl staff yn y canolfannau gofal a diolch iddynt am bopeth y maent wedi’i wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf mewn ymateb i’r argyfwng hwn.
“Rydym yn sylweddoli bod hwn yn gyfnod anodd a gofidus i bawb, gan gynnwys staff a’u teuluoedd, ac nid oes gennyf ddim byd ond edmygedd tuag at yr ymroddiad a’r proffesiynoldeb a ddangoswyd ganddynt.
“Mae adroddiadau gan rieni o ran y cymorth y mae eu plant yn ei dderbyn yn gadarnhaol iawn, ac yn dyst i’ch holl waith caled.
“Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i adolygu’r hyn sydd gennym ar waith i sicrhau eich bod yn parhau i chwarae rhan werthfawr yn ystod y cyfnod cythryblus tu hwnt hwn.”












