- Advertisement -
Home Carmarthenshire News Elusen y GIG yn prynu teledu ar gyfer ward strôc ac adsefydlu...

Elusen y GIG yn prynu teledu ar gyfer ward strôc ac adsefydlu Ysbyty Tywysog Phillip

0
66
- Advertisement -

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu teledu newydd ar gyfer y Ward Strôc ac Adsefydlu yn Ysbyty Tywysog Phillip, diolch i roddion.

Mae’r teledu wedi’i osod yn ystafell ddydd y ward.

- Advertisement -

 

Dywedodd Emily Jenkins, Uwch Brif Nyrs: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu teledu newydd ar gyfer yr ystafell ddydd.

 

“Mae llawer o gleifion yn treulio amser yn yr ystafell ddydd gyda’u perthnasau yn ystod oriau ymweld. Mae’r teledu o fudd i’n cleifion gan ei fod yn rhoi rhywfaint o normalrwydd iddynt ac mae’n gyswllt â’u bywydau cyn y strôc.”

 

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk

- Advertisement -
Previous articleApêl yn anelu at godi £100,000 ar gyfer gerddi therapiwtig newydd yn Ysbyty Tywysog Philip
Next articleNHS charity buys TV for Prince Phillip Hospital stroke and rehabilitation ward
X
X
Skip to content