- Advertisement -
Home Charity Elywel Iechyd Elusennau ar sganiwr £ 60,000 a brynwyd ar gyfer Ysbyty’r...

Elywel Iechyd Elusennau ar sganiwr £ 60,000 a brynwyd ar gyfer Ysbyty’r Tywysog Philip

0
45
- Advertisement -

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu prynu sganiwr Faxitron, a oedd yn costio mwy na £60,000, i’w ddefnyddio yn ystod llawdriniaethau canser y fron yn Ysbyty’r Tywysog Philip, diolch i roddion gan ein cymunedau.

Mae’r peiriant Faxitron yn fath o beiriant pelydr-x, ac mae’n ddarn pwysig o offer ar gyfer llawdriniaethau canser y fron.

- Advertisement -

Mae’n cael ei ddefnyddio i ddarparu sbesimenau pelydr-x ar unwaith sy’n dangos a yw ymylon biopsi yn amlwg yn glir o ganser, sy’n helpu i leihau’r angen i glaf ddychwelyd am ragor o lawdriniaethau, gan leihau’r pryder a’r straen i gleifion.

Dywedodd Saira Khawaja, Llawfeddyg Ymgynghorol Oncoblastig y Fron yn yr ysbyty: “Ar ran tîm uned y fron yn Ysbyty’r Tywysog Philip, hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb am eu haelioni wrth gyfrannu arian elusennol ar gyfer ein peiriant Faxitron newydd sydd wedi’i uwchraddio.

“Dyma ddarn o offer sy’n cael ei ddefnyddio gennym yn y theatr llawdriniaethau. Mae’n system pelydr-x sy’n asesu’r ardal gyfagos ar ôl i feinwe canser y fron gael ei dynnu.

Mae’r peiriant radiograffeg sbesimenau diweddaraf un hwn yn lleihau’r angen i glaf ddychwelyd am ragor o lawdriniaethau.

Gwerthfawrogir yn fawr y cyllid gan y gymuned ar gyfer y darn pwysig hwn o offer mewn perthynas â gofal canser y fron.”

Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewellyn: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”

Os hoffech helpu elusen eich GIG i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a staff y GIG ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk

Yn y llun mae Saira a llawfeddyg ymgynghorol locwm y fron, Yousef Sharaiha gyda’r sganiwr Faxitron newydd.

The post Elywel Iechyd Elusennau ar sganiwr £ 60,000 a brynwyd ar gyfer Ysbyty’r Tywysog Philip first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleHywel Dda Health Charities on a £60,000 scanner bought for Prince Philip Hospital
Next articleTime again for nasal flu vaccinations at school
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content