- Advertisement -
Home Hywel Dda Health Charities Grŵp theatr yn codi £500 ar gyfer Ysbyty yn Llanelli

Grŵp theatr yn codi £500 ar gyfer Ysbyty yn Llanelli

0
20
- Advertisement -

Mae grŵp theatr o Lanelli wedi rhoi elw ei bantomeim Nadolig i ysbyty yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Grŵp Theatr Cyfeillgarwch, sy’n perfformio yn Theatr Ffwrnes, Llanelli, wedi codi dros £250,000 ar gyfer elusennau a sefydliadau lleol ers iddo ddechrau gyntaf ym 1993.

Cyfanswm gwerthiannau o Sleeping Beauty, sioe’r llynedd, oedd £500 – a roddwyd i Ward 7 Ysbyty Tywysog Philip.

- Advertisement -

Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp eu bod yn “falch” o allu cefnogi’r achos.

Ychwanegodd y llefarydd: “Rydym wrth ein bodd bod Grŵp Theatr Cyfeillgarwch wedi gallu rhoi £500 o gynhyrchiad y llynedd o Sleeping Beauty i Ward 7 Ysbyty Tywysog Philip Elusennau Iechyd Hywel Dda, i gefnogi’r gwaith amhrisiadwy y mae eich sefydliad yn ei wneud yn ein cymuned. Rydym yn falch o allu cyfrannu at y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud ym mywydau pobl.”

Mynychodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda, y noson cyflwyno sieciau yn sioe ddiweddaraf y grŵp theatr, Cinderella.

Dywedodd: “Diolch yn fawr iawn am eich ymdrechion codi arian anhygoel ar ran Elusennau Iechyd Hywel Dda. Rydym mor ddiolchgar am bob rhodd.

“Diolch yn fawr, rydych chi wir yn gwneud gwahaniaeth!”

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch ihttps://hywelddahealthcharities.nhs.wales/

- Advertisement -
Previous articleIndependent-Led Llanelli Town Council Scraps Councillor Expenses – Saving Taxpayers £15,000 every year!
Next articleTheatre group raises £500 for Llanelli hospital
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content