- Advertisement -
Home More News Local News Gwaith yn parhau i gael gwared â choed y mae clefyd coed...

Gwaith yn parhau i gael gwared â choed y mae clefyd coed ynn yn effeithio arnynt

0
45
- Advertisement -

Mae gwaith yn parhau ledled Sir Gaerfyrddin i gael gwared â choed ynn heintiedig sy’n eiddo i’r cyngor sy’n effeithio ar y briffordd.

Yn ddiweddar, mae contractwyr arbenigol wedi bod yn cwympo coed drwy gydol y nos ar ffordd gyswllt yr A4138 yn yr Hendy i gael gwared â choed marw a choed sy’n marw sy’n peri risg i ddefnyddwyr y ffordd a cherddwyr.

- Advertisement -

Clefyd ffwngaidd yw clefyd coed ynn, sy’n ymledu o’r dail i’r canghennau, gan achosi i’r coed farw. Gall canghennau marw a choed cyfan marw fynd yn frau iawn a syrthio, gan greu risg ddifrifol i’r cyhoedd.

Atgoffir tirfeddianwyr sydd â choed heintiedig eu bod yn gyfrifol, o dan Ddeddf Atebolrwydd Meddianwyr 1957 a 1984, a Deddf Priffyrdd 1980, am sicrhau nad yw eu coed yn peri risg annerbyniol i bobl ac eiddo yn ogystal â sicrhau eu bod yn cydymffurfio â darpariaethau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 mewn perthynas ag osgoi niwed i adar, eu hwyau a’u nythod.

Os bernir bod coed yn peri bygythiad uniongyrchol a bod yr awdurdod eisoes wedi cysylltu â’r tirfeddianwyr, mae Hysbysiadau Cyfreithiol bellach yn cael eu cyflwyno iddynt i gael gwared â’r coed.  Os nad yw perchennog y goeden yn cydymffurfio â’r hysbysiad bydd yr awdurdod yn cael gwared â’r risg ac yn codi tâl ar y perchennog am y gwaith.

Mae dyletswydd gyfreithiol ar y cyngor o dan y Ddeddf Priffyrdd i gadw ffyrdd yn ddiogel i ddefnyddwyr ac mae clefyd coed ynn yn fater difrifol i’r cyngor ac i dirfeddianwyr.

Mae’n dasg beryglus ac arbenigol ac mae’r cyngor wedi cyflogi meddygon coed profiadol sydd â chymwysterau i gyflawni’r gwaith hwn.

Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cyng Edward Thomas:

“Yn anffodus, rydym wedi gorfod dechrau cyflwyno hysbysiadau cyfreithiol i dirfeddianwyr sydd wedi methu â chael gwared â’r coed heintiedig hyn. Mae dyletswydd gyfreithiol arnom o dan y Ddeddf Priffyrdd i gadw ein ffyrdd yn ddiogel i ddefnyddwyr ac mae clefyd coed ynn yn fater difrifol i’r cyngor ac i dirfeddianwyr. Dylai tirfeddianwyr hefyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â darpariaethau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 mewn perthynas ag osgoi niwed i adar, eu hwyau a’u nythod wrth gynllunio i gael gwared â’r coed.”

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn bwrw ymlaen â’i raglen plannu coed i helpu i liniaru rhai o’r coed sydd wedi’u colli.

Yn ddiweddar, plannwyd 120 o goed ar safle Parc Dewi Sant yng Nghaerfyrddin a bwriedir plannu mwy yn ddiweddarach eleni.

Mae paratoadau hefyd ar y gweill i blannu coed ar safleoedd mawr eraill yn y sir.

Mae gwybodaeth am goed ynn heintiedig ar gael ar wefan y cyngor sirgar.llyw.cymru/clefydcoedynn

- Advertisement -
Previous articleQueen Jubilee Celebrations begin 
Next articleWorks continues to remove trees affected by ash dieback disease
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content