- Advertisement -
Home More News Local News Gwasanaeth cwnsela a llesiant emosiynol ar-lein i bobl ifanc

Gwasanaeth cwnsela a llesiant emosiynol ar-lein i bobl ifanc

0
26
- Advertisement -

Mae gwasanaeth cymorth cwnsela a llesiant emosiynol ar-lein newydd i bobl ifanc yng nghanolbarth a gorllewin Cymru wedi’i lansio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae’r Gwasanaeth Arbenigol Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (S-CAMHS) wedi comisiynu Kooth, sy’n wasanaeth cwnsela ar-lein ac wedi’i achredu gan Gymdeithas Seicotherapi a Chynghori Prydain.

- Advertisement -

Yn dilyn atgyfeiriad priodol gan S-CAMHS, bydd pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed nawr yn gallu cael gafael ar gwnsela ar-lein trwy eu dyfais symudol, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae Kooth yn darparu dull gyfunol o gwnsela ar-lein, cefnogaeth a chyngor i bobl ifanc, sy’n rhad ac am ddim, yn ddiogel ac yn ddienw gan gwnselwyr cyfeillgar.

Bydd cwnselwyr profiadol ar gael ar gyfer sesiynau galw heibio rhithwir neu sesiynau sgwrsio y gellir eu harchebu rhwng hanner dydd a 10pm yn ystod yr wythnos, ac o 6pm tan 10pm ar benwythnosau. Mae taflenni ar gael yn Saesneg a Chymraeg ac ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth yn recriwtio cwnselwyr sy’n siarad Cymraeg.

Yn ogystal â chwnsela ar-lein, mae Kooth yn cynnig cefnogaeth cymar-i-gymar, fforymau wedi’u cymedroli gydag aelodau ifanc eraill o’r ‘gymuned Kooth’ ac ystod eang o ddeunyddiau hunangymorth.

Bydd pobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn gallu ceisio cefnogaeth neu gyngor ar unrhyw bwnc y maent yn dymuno, o ymdopi â straen arholiad neu fwlio, ceisio cymorth ar gyfer materion bwyta a delwedd y corff, delio â meddyliau hunanladdol neu drin cam-drin rhywiol. Nid oes trothwyon na rhwystrau i bobl ifanc rhag derbyn cymorth gan Kooth.

Dywedodd Pennaeth S-CAMHS Angela Lodwick, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn croesawu’r gwasanaeth cwnsela digidol ar-lein newydd hwn i ategu a chefnogi’r ystod o wasanaethau S-CAMHS sydd ar gael i bobl ifanc fel rhan o’r ymrwymiad parhaus i wella gwasanaethau iechyd meddwl lleol.”

Ychwanegodd Dr Lynne Green, Prif Swyddog Clinigol, Kooth: “Rydyn ni wrth ein boddau gweld y bydd pobl ifanc 11 i 18 oed yng nghanolbarth a gorllewin Cymru nawr yn gallu elwa o wasanaethau Kooth.

“Mae gwasanaeth iechyd meddwl digidol fel Kooth yn fuddiol i bobl ifanc gan ei fod yn anhysbys ac yn rhydd o’r stigma y mae rhai unigolion yn ei wynebu.

“Gall pobl ifanc fewngofnodi’n hawdd i Kooth, gan nad oes ganddo restrau aros a dim trothwyon i’w cwrdd i gael mynediad at gefnogaeth. Mae ein cwnselwyr cymwys wrth law i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad bob dydd.

“Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi pobl ifanc yn ardal Hywel Dda gyda’u hiechyd meddwl ac annog pob person ifanc i ofyn am gymorth ar Kooth.”

The post Gwasanaeth cwnsela a llesiant emosiynol ar-lein i bobl ifanc first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous article#DiogeluCymru – Peidiwch â gohirio tan yfory yr hyn y gallwch chi ei wneud heddiw i’n helpu ni i’ch helpu chi’r gaeaf hwn.
Next articleOnline counselling and emotional wellbeing service for young people
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content