- Advertisement -
Home More News Local News Mae ymweld â’n hysbytai

Mae ymweld â’n hysbytai

0
44
- Advertisement -

Diolch i bawb am gefnogi cyfyngiadau ymwelwyr sydd yn amddiffyn ein cleifion a’n GIG.

Er mwyn cydymffurfio â mesurau pellhau cymdeithasol fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru, mae ymweld â’n hysbytai yn parhau i fod yn gyfyngedig dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Mae hyn er mwyn amddiffyn ein cleifion a’n staff ar yr adeg anodd hon ac wrth i bandemig COVID-19 barhau.

- Advertisement -

Rydym yn gwerthfawrogi bod y cyswllt hwnnw ag anwyliaid yn cefnogi lles cleifion. Am y rheswm hwn, mae rhith-ymweld yn parhau ym mhob maes ac rydym yn cefnogi cleifion i gysylltu â theulu a ffrindiau trwy ffonau symudol a thabledi mewn ffordd ddiogel.

Mae ymweld yn cael ei ddarparu trwy gytundeb rheolwr y ward ar gyfer yr achosion canlynol:

  • Un rhiant / gwarcheidwad ar y tro ar gyfer plant a babanod.
  • Mam eni – un partner.
  • Cleifion ag anawsterau dysgu neu anghenion iechyd meddwl – un ymwelydd i ddarparu cefnogaeth trwy drefniant.
  • Cleifion sy’n derbyn gofal diwedd oes neu neu sydd angen gofal lliniarol – i’w drefnu gyda’r nyrs â gofal.

Gofynnir i bob ymwelydd gydymffurfio â chanllawiau atal heintiau, pellter cymdeithasol a lle bo hynny’n bosibl, i wisgo wyneb yn gorchuddio a diheintio eu dwylo.

Ni ddylai ymweld fynd yn ei flaen os yw ymwelwyr yn hunan-ynysu, gyda symptomau Covid-19 ar hyn o bryd neu’n ddiweddar neu wedi bod yn agored i rywun â Covid-19 yn ystod y 14 diwrnod diwethaf.

Gall ein tîm cefnogi cleifion helpu i ddosbarthu eitemau hanfodol i gleifion; os oes angen eu cymorth arnoch, ffoniwch nhw ar a 0300 0200 159 a byddant yn gwneud eu gorau i’ch helpu chi.

Rydym yn gwerthfawrogi ei bod yn gyfnod anodd i bawb a byddwn yn parhau i gefnogi llesiant ein cleifion / defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd a’u hanwyliaid yn y ffordd orau y gallwn, gan gadw pawb mor ddiogel â phosibl. Diolch am eich amynedd, eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad parhaus.

Mae ein gwasanaeth caplaniaeth hefyd wrth law i ddarparu cefnogaeth ysbrydol i’n staff a’n cleifion ar yr adeg anodd hon.

The post Mae ymweld â’n hysbytai first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleKeep Wales Safe
Next articleHIW praise for field hospitals
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content