- Cyngor Sir Gâr am ‘oedi’ ymgynghoriad ar gau Ysgol Pontiets
- Cymuned yr Ysgol yn penderfynu parhau gyda’r ymgyrch doed â ddêl
- Llefarydd yn mynegi nifer o amheuon am broses ymgynghori ‘anwadal ac annigonnol’ ac yn estyn gwahoddiad i’r Cyngor am ymgynghoriad ‘ystyrlon’
- Y Cyngor yn cael eu cyhuddo o afradu arian ac agweddau “rhagfarnllyd” sy’n anwybyddu opsiynau niferus ariannol ac ymarferol
Mewn cyfarfod cyhoeddus yr wythnos ddiwethaf, yn wyneb ansicrwydd a bygythiad tymor hir i Ysgol Pontiets, penderfynodd rhieni a phentrefwyr parhau gyda’r frwydr er gwaethaf adroddiadau y bydd Cabinet Cyngor Sir Gâr yn pleidleisio ar oedi’r broses.
Mae’r ysgol yn un o bedwar sydd wedi cael eu clustnodi i’w cau erbyn mis Rhagfyr 2026, ond trwy benderfyniad munud olaf mae’n debyg bydd Pontiets yn cael ei neilltuo o’r broses honno. Fodd bynnag, er yr awgrym fod hwn yn golygu achubiaeth i’r plant a’r staff, mae’r neges yn un clir gan y sawl sy’n arwain ymgyrch dros ddyfodol yr ysgol.

Meddai llefarydd ar ran yr ymgyrch
“Wrth reswm mae’n rhyddhad clywed na fydd y broses o ymgynghori yn debyg o fynd rhagddi yn achos Ysgol Pontiets, ond bydd y pryder a’r ansicrwydd yn parhau. Nid oes unrhyw eglurder ynghylch pa mor hir fydd yr oedi. Er lles y plant a’r staff mae’n rhaid inni barhau i frwydro, mynnu tegwch i’n teuluoedd a’n cymuned, a sicrhau dyfodol i’r ysgol – sydd newydd ddathlu eu cant a hanner – ar gyfer y cenedlaethau i ddod.”

Ai’r llefarydd ymlaen i ddweud,
“Mae pawb yn yr ardal yn deall pa mor fregus yw’r sefyllfa gyda phlant Ysgol Carwe yn ddigartref ar hyn o bryd oherwydd cyflwr eu hadeilad, ac yn derbyn eu haddysg yn Ysgol Gwynfryn dros dro. Yn hynny o beth, a ninnau mewn adeilad categori B a gyda’r gorau o ran cyflwr yng Nghwm Gwendraeth, mae’n synnwyr cyffredin peidio symud ymlaen gyda’r cynlluniau. Yn hynny o beth, mae’r penderfyniad yma ar yr unfed awr ar ddeg yn adlewyrchu’r modd mae’r Cyngor wedi rhuthro gyda’u cynlluniau yn ddifeddwl ac yn ddiangen. Roedd plant Carwe yn yr un sefyllfa pan gyhoeddwyd y cynlluniau nôl ym mis Medi.”

“Ymhellach, rydym yn hynod siomedig ac yn drist ofnadwy ynghylch y modd y mae’r broses anwadal ac annigonnol yma wedi cael eu harwain mor belled, a gwyddwn fod eraill sydd â chysylltiad gydag ysgolion eraill yn teimlo’r un fath. Yn wir, yn y cyfarfod craffu ar y cynlluniau roedd un o aelodau Plaid Cymru ei hun wedi rhoi cynnig ger bron i oedi’r broses oherwydd y diffygion yma. Pan mae rhywun yn sôn am blant bach, athrawon ymroddedig, a chymunedau bregus, mae’r agwedd dihid yma’n dorcalonnus. Ar ben pob dim mae rhaid i bobl ymdopi gyda ar yr adeg anodd yma, mae’n greulon dros ben bod y Cyngor am fynd ag adnoddau pwysicaf unrhyw gymuned – sef eu hysgolion, a felly eu plant. Mae cystal â lladd cymunedau, a rydym yn gofidio mai dim ond y dechrau yw hyn o safbwynt pentrefi llai y sir.”

Mae yna gryn anniddigrwydd o fewn yr ymgyrch ynghylch sawl agwedd ar yr ymgynghori, a theimlad mai ateb anneffeithiol a rhagfarnllyd yw’r cynlluniau i gau ysgolion, yn hytrach na mynd i’r afael gyda thrafferthion mwy sylfaenol a thymor hir nad yw’r Cyngor yn fodlon cydnabod. Cyfeirir yn enwedig at arian sy’n cael ei afradu, a diffyg cefnogaeth i ysgolion bach, yn enwedig wrth ddenu a chadw disgyblion. Meddai’r llefarydd,
“Rydym wedi cael ar ddeall bod yna rhagolygon y bydd gorwariant ar gyllidebau blynyddol ysgolion y sir yn agos at £9 miliwn o bunnoedd y flwyddyn hon. Mae hyn yn gyfanswm dychrynllyd ac yn codi cwestiwn difriol ynghylch rheolaeth y Sir o gyllidebau. Gofynnwn pam nad yw mynd i’r afael â’r sefyllfa hon – y mae’r Cyngor yn ei chydnabod fel un anghynaladwy – yn cael blaenoriaeth yn hytrach na chau ysgolion sy’n boblogaidd ac sydd yn cael eu harwain yn effeithiol. Mae’r swm y bydd cau y 4 ysgol yn arbed yn un pitw o gymharu, tra bod diffyg ariannol ambell ysgol gynradd arall yn fwy na’r hyn y byddai’n cael ei arbed trwy gau Ysgol Pontiets. Ymhellach mae’r ymgynghoriad yn cynnwys yr awgrym y bydd modd codi £175K trwy werthiant adeilad yr ysgol, ond gofynnwn i’r Cyngor faint o arian yn union y maen nhw wedi codi o’r 7 adeilad ysgol tybiedig sydd yn parhau ar eu llyfrau ac yn wag? Inni ym Mhontiets yn enwedig mae’r sefyllfa’n gadael blas cas o ystyried y ffaith ein bod ni’n ysgol sydd wedi gwario oddi fewn i’n cyllid. Dyma ysgolion gwledig yn talu’r pris oherwydd gormodedd eraill a rhagfarn amlwg a disail yn eu herbyn.”

“Ymhellach rhaid edrych ar y nifer o blant sydd erbyn hyn yn derbyn eu haddysg adref. Mae’r swm wedi dwblu yn y pum mlynedd diwethaf gydag amcangyfrif o hyd at 800 o blant tu allan i’r sustem addysg, ac fel rydyn ni’n ei deall hi mae’r Cyngor Sir yn debyg o golli miloedd y pen gan Lywodraeth Cymru, oherwydd bod niferoedd dysgwyr yn ffactor sylfaenol o ran y grant. Yr un hen gân sy’n dod o’r swyddogion a gwleidyddion lleol ynghylch niferoedd yn cwympo, ond beth y mae’n nhw’n gwneud o safbwynt eu cyfrifoldeb statudol i gefnogi Addysg Gymraeg trwy hybu’r ysgolion pentref yma, a sicrhau cynnig sydd yn lleddfu amheuon rhieni ac yn ymateb i’w hanghenion?”

“Rydym yn galw ar y Cyngor, swyddogion a gwleidyddion fel ei gilydd – yn unol â’u dyletswyddau statudol – i ymgysylltu â’n hysgolion a’n cymunedau i gynnal ymgynghoriad gwirioneddol ac ystyrlon, ynghylch sut y gallwn gydweithio i ddiogelu dyfodol ein hysgolion ac felly dyfodol ein cymunedau.”
Yn ogystal â’r teimlad o annhegwch ac anghyfiawnder, mae’r ymgyrchwyr wedi siomi a digio gan y diffyg sylw a phwyslais ar lles y plant. Yn wir, mae sawl agwedd ar y cynlluniau yn awgrymu bod eu sefyllfa’n cael eu hanwybyddu. Cyfeiria llefarydd yr ymgyrch at sawl agwedd sydd yn amlygu hyn:
“Ymddengys yn gwbl amlwg inni nad yw lles na dyfodol y plant yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Cau ysgolion yn unig yw’r bwriad, heb sôn am unrhyw ysgolion bro newydd fel sydd wedi eu codi mewn siroedd eraill. Mae’r cynllun i fynd a’r plant mewn bys allan o’r pentref ac allan o’r cwm i Ysgol Pump Heol yn gywilyddus, ac mae’n debyg na fyddai’r bws yna ar gael yn y dyfodol i unrhyw blant nad sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd. Mae’n anwybyddu’r ffaith bod yr ysgol honno yn nalgylch Ysgol y Strade, nid ysgol uwchradd y Cwm, sef Maes y Gwendraeth.”
“Ymhellach, mae amserlen yr ymgynghoriad yn un sydd yn mynd i greu pob math o drafferthion ac ansefydlogrwydd i’r plant. O anelu at gau’r ysgolion erbyn Rhagfyr 2026 byddai plant ym mlynyddoedd 4 a 5 yn wynebu bod mewn 3 ysgol wahanol o fewn 3 blynedd. Ac i goroni’r cyfan, maen nhw am symud y plant dros y Nadolig, gyda’r disgyblion yn wynebu sefyllfa dorcalonnus o weld eu hysgol yn cau ar yr adeg yna o’r flwyddyn y maen nhw a’u teuluoedd yn trysori mwyaf. Mae’n anghredadwy a chwbl ddienaid.”
Yn wir, mae’r ymgyrchwyr wedi bod yn annog eu plant i godi llais, ac mae’r pryderon a thristwch maen nhw yn eu mynegi yn amlygu gwirionedd ac effeithiau’r cynlluniau yma. Meddai un plentyn:
“Rydw i’n disgybl yn Ysgol Pontiets. Mae ein hysgol yn fach ond mae e’n arbennig iawn. Rydyn ni gyd yn adnabod ein gilydd. Y rhai bach, y rhai mawr, yr athrawon a Mrs Thomas. Rydyn ni gyd yn un teulu mawr. Rydyn ni’n dysgu popeth yn y Gymraeg ac rydym yn falch iawn o hynny. Mae e’n rhan o bwy ydyn ni ac mae e’n helpu cadw ein pentre ac ein iaith yn fyw.”
Ac yng ngeiriau plentyn arall:
“Os bydd ein hysgol yn cau, bydd yn rhaid i ni deithio ymhell i ffwrdd. Bydd yn rhaid i rai ohonom fynd i ysgolion lle mae llawer iawn o bobl, ac mae hyn yn codi ofn arnom ni. Byddwn yn colli ein ffrindiau, ein hathrawon, a’r lle lle rydym yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus. Peidiwch â gadael i’r cyngor gau ein hysgol. Rydym wrth ein bodd â hi, rydym yn falch ohoni, ac mae angen hi arnom ni.”














