- Advertisement -
Home Hywel Dda Health Charities Plant ysgol yn codi £2.6k trwy daith gerdded noddedig i ddiolch am...

Plant ysgol yn codi £2.6k trwy daith gerdded noddedig i ddiolch am driniaeth eu hathrawes

0
23
- Advertisement -

Cymerodd grŵp o blant ysgol ran mewn taith gerdded noddedig i godi arian ar gyfer uned ddydd cemotherapi, achos sy’n agos at eu calonnau.

Roedd y plant ifanc, o Ysgol Llys Hywel yn Hendy-gwyn ar Daf, yn codi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, i ddweud diolch am y gofal a gafodd eu hathrawes yno.

Roedd y daith gerdded noddedig yn un o ddau ddigwyddiad codi arian a gynhaliwyd gan Ysgol Llys Hywel ar ran Caroline Thomas, Pennaeth Cynorthwyol yr ysgol. Mae hi wedi bod yn derbyn triniaeth yn yr uned ers dwy flynedd. Roedd y digwyddiad arall – bore coffi – yr un mor llwyddiannus, gyda’r ddau ddigwyddiad yn codi cyfanswm o £2,600 i’r uned.

- Advertisement -

Wrth ddiolch i gymuned yr ysgol am eu cefnogaeth, dywedodd y Pennaeth Vanessa Roberts eu bod yn ffodus iawn i gael cymuned mor gefnogol lle mae pawb yn adnabod Caroline.

Ac roedd Caroline, hefyd, yn ddiolchgar iawn am yr ymdrechion codi arian.

Dywedodd: “Rwyf mor falch gyda’r swm a godwyd gan y plant, rhieni a staff yn eu bore coffi a’u taith gerdded noddedig.”

Dywedodd Kath Watkins, Uwch Brif Nyrs: “Ar ran staff a chleifion yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, hoffwn ddiolch i Ysgol Llys Hywel am eu hymdrechion codi arian a arweiniodd at gyfraniad hael iawn o £2,600.

“Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o wella’r amgylchedd a gwella’r ffordd rydym yn gofalu am gleifion o fewn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn. Diolch.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/

- Advertisement -
Previous articleLabour Senedd candidate calls out Reform giving top job to man behind Stradey Park Hotel immigration plans.
Next articleSchoolchildren raise £2.6k through sponsored walk to say thanks for teacher’s treatment
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content