- Advertisement -
Home Carmarthenshire News “Rhaid datrys cyrhaeddiad”: neges Plaid Cymru ar addysg cyn etholiad nesaf y...

“Rhaid datrys cyrhaeddiad”: neges Plaid Cymru ar addysg cyn etholiad nesaf y Senedd

0
59
- Advertisement -

Mae Plaid Cymru wedi pwysleisio bod “rhaid datrys cyrhaeddiad” mewn ysgolion o flaen etholiad nesaf y Senedd yn 2026, mewn ymateb i’r hyn maen nhw’n galw’n “26 mlynedd o esgeulustod a chamreolaeth gan Lafur” o gyfundrefn addysg Cymru.

 

Gwnaed y pwynt yn ystod araith Cefin Campbell AS, llefarydd addysg Plaid Cymru, yn ystod cynhadledd wanwyn ei blaid yn Llandudno heddiw (Dydd Sadwrn, 22 Mawrth).

- Advertisement -

 

Rhoddwyd sylw hefyd i’r angen am “fodel newydd” o gyllido ar gyfer prifysgolion, cryfhau cynlluniau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a’r bil £500 miliwn o gostau cynnal a chadw ar gyfer adeiladau ysgolion.

 

Dangosodd adroddiad blynyddol diwethaf Estyn yr heriau sylweddol sy’n wynebu ysgolion o ran safon dysgu ac asesu, gwella lefelau llythrennedd a rhifedd, yn ogystal â recriwtio gweithlu addysg.

 

Mae canlyniadau rhyngwladol PISA hefyd wedi dangos dirywiad mewn cyrhaeddiad, gyda chanlyniadau Cymru o ran mathemateg, darllen a gwyddoniaeth yn is nag unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig.

 

Un o’r syniadau gafodd eu crybwyll yn yr araith ar gyfer datrys cyrhaeddiad ac ymddygiad oedd model Ysgol Gymunedol ‘Plus’, sef cynnwys darpariaeth iechyd meddwl a chwnsela ar leoliad yr ysgol, fyddai mewn tro yn caniatáu athrawon i ganolbwyntio ar addysg.

 

Yn ymhelaethu ar y syniad, dywedodd Mr. Campbell yn ei araith:

 

“Boed yn mynd i’r afael ag ymddygiad aflonyddgar, lefelau uchel o absenoldeb, gwella darpariaeth ADY ac iechyd meddwl, byddai darparu cymorth cofleidiol yn galluogi dysgwyr i gyrraedd eu potensial, waeth beth yw’r heriau y maent yn eu hwynebu.

 

“Dyna pam yr ydym am adeiladu ar fodel Ysgolion Cymunedol presennol Llywodraeth Cymru,  sydd â bwriadau da, er nad yw’n mynd yn ddigon pell.

 

“Wrth greu model Ysgolion Cymunedol ‘Plus’, os hoffwch, rydym yn gobeithio gallu dod â staff cymorth a gwasanaethau a sefydliadau perthnasol ynghyd i wella cymorth a chanlyniadau i’n pobl ifanc.”

- Advertisement -
Previous articleCouncillors call for DDAS (Dyfed Drug & Alcohol Service) to move to Ty’r Nant
Next article“Rhaid datrys cyrhaeddiad”: neges Plaid Cymru ar addysg cyn etholiad nesaf y Senedd
X
X
Skip to content