- Advertisement -
Home Hywel Dda Health Charities Staff Tywysog Philip yn cwblhau 10k Llanelli i godi arian ar gyfer...

Staff Tywysog Philip yn cwblhau 10k Llanelli i godi arian ar gyfer gardd newydd

1
65
- Advertisement -

Mae tîm o staff o Ward Bryngolau wedi cwblhau 10k Llanelli mewn ymgais i helpu i godi £100,000 ar gyfer gerddi therapiwtig newydd yn Ysbyty Tywysog Philip.

Ar ddydd Sul 25 Chwefror 2024, cymerodd wyth aelod o Dîm Bryngolau – Deborah Griffiths, Luke Bennett, Nicola Andrews, Guto Davies, Elisia Curtis, Amy Griffiths, Rob Hughes a Lisa Parsons – ran yn ras 10k Llanelli.

Ar hyn o bryd mae’r tîm wedi codi dros £600 tuag at y gerddi ac yn bwriadu cymryd rhan mewn mwy o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.

Mae Guto Davies, Rheolwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn, wedi siarad am sut aeth y digwyddiad.

- Advertisement -

Dywedodd Guto: “Cafodd tîm Bryngolau amser gwych yn 10k a Hanner Marathon Llanelli! Roedd yn wych dod at ein gilydd fel tîm y tu allan i leoliad gwaith ar gyfer achos mor wych.

“Mae wedi rhoi’r cymhelliant i ni gofrestru ar gyfer mwy o ddigwyddiadau yn y gobaith o godi mwy o arian ar gyfer y gerddi therapiwtig newydd. Mae hon yn Apêl yr ydym i gyd yn angerddol iawn amdani. Mae’n mynd i wneud gwahaniaeth anhygoel i staff, cleifion a’u teuluoedd a’u ffrindiau.”

Dywedodd Diane Henry-Thomas, Swyddog Cefnogi Codi Arian yr Elusen: “Cawsom amser gwych yn ras 10k a Hanner Marathon Llanelli. Cawsom dros 30 o godwyr arian yn cefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda, gan gynnwys Tîm Bryngolau.

 

“Roedd yn wych gweld staff yn dod at ei gilydd ac yn herio eu hunain yn ras 10k Llanelli i gefnogi’r Apêl.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am Apêl Gerddi Tywysog Philip, ewch i:https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/campaigns/pph-gardens-appeal/.

- Advertisement -
Previous articleBuilder Receives Immediate Prison Sentence Following Successful Prosecution by Carmarthenshire County Council
Next articleMenter newydd yn gwella cyfathrebu i gleifion â chyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd yn Sir Gaerfyrddin
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

1 COMMENT

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content