- Advertisement -
Home More News Local News Y Cyngor yn ymateb i ffigurau cyfrifiad y Gymraeg

Y Cyngor yn ymateb i ffigurau cyfrifiad y Gymraeg

0
65
- Advertisement -

Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, ac yng Nghymru gyfan, wedi gostwng ers 2011 yn ôl canlyniadau cyfrifiad 2021.

Mae data diweddaraf y Cyfrifiad ar gyfer 2021 yn dynodi bod tua 538,300 o bobl (3+ oed) yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, mae hyn yn cyfateb i 17.8% o’r boblogaeth. Mae hyn yn ostyngiad o tua 23,700 o bobl neu 1.2 pwynt canran ers Cyfrifiad 2011. 

- Advertisement -

Ar gyfer Sir Gaerfyrddin, mae’r data ar gyfer 2021 yn dynodi bod y sir yn gartref i 72,838 o siaradwyr Cymraeg neu 39.9% o gyfanswm y boblogaeth (3+ oed). Mae’r ffigur hwn yn ostyngiad o 5,210 neu 4.0% ers y Cyfrifiad diwethaf yn 2011.

Yn anffodus, dyma’r gostyngiad mwyaf fel pwynt canran o blith holl awdurdodau lleol Cymru.

Yn 2001 a 2011, Sir Gaerfyrddin oedd â’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg o bob awdurdod lleol yng Nghymru, gydag 84,196 o siaradwyr Cymraeg yn 2001 a 78,048 o siaradwyr Cymraeg yn 2011.  Mae’r ffigurau newydd hyn yn golygu bod gan y sir bellach y nifer ail uchaf o siaradwyr Cymraeg o bob awdurdod lleol yng Nghymru.

Sir Gaerfyrddin yw’r pedwerydd uchaf o hyd o ran canran y boblogaeth sy’n medru’r Gymraeg.

Grŵp Oedran

Gwelodd pob awdurdod lleol yng Nghymru ostyngiad yng nghanran y plant, rhwng 3 a 15 oed, y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021. Ar lefel genedlaethol, credir bod y gostyngiad yn nifer a chanran y bobl, yn dair oed neu’n hŷn, sy’n gallu siarad Cymraeg yn cael ei yrru’n bennaf gan gwymp ymhlith plant a phobl ifanc a ddywedodd eu bod yn medru’r Gymraeg.

Yn Sir Gaerfyrddin mae gostyngiad o 510 o bobl neu 2.6% wedi bod yn y nifer rhwng 3-15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae gostyngiadau hefyd i’w gweld yn y categorïau oedran 16-64 a 65+, er ar lefelau mwy sylweddol na’r grŵp oedran iau. I ehangu, mae’r dirywiad yn y rheiny sydd dros 65 oed ac sy’n gallu siarad Cymraeg yn cyfateb i ostyngiad o 8.7%.

Sgiliau Iaith Gymraeg

Yn ystod Cyfrifiad 2011 dywedodd 74,355 o bobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau yn y Gymraeg. Mae’r lefel hon wedi cynyddu dros y deng mlynedd diwethaf i 85,287, neu 4.8%.

Mae nifer y bobl sy’n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn y sir wedi gostwng 1.9% neu 1,828 o bobl. Mae hyn yn ostyngiad sylweddol is na’r ffigurau ar gyfer y rheiny sydd ond yn gallu siarad Cymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: “Does dim osgoi’r ffaith fod y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin yn frawychus ac yn achos pryder mawr.

“Mae yna lawer o ffactorau a allai esbonio’r dirywiad hwn. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid drwy’r Fforwm Iaith Sirol i ddadansoddi’r canlyniadau hyn o’r cyfrifiad diweddaraf er mwyn sicrhau ein bod yn deall yn iawn y ffactorau sy’n cyfrannu at y canfyddiadau siomedig hyn a’n bod yn ymateb iddynt.”

- Advertisement -
Previous articleCouncil reacts to Welsh language census figures
Next articleYsgol Penrhos School Christmas Card Competition
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content