- Advertisement -
Home More News Health News Ymateb i Estyniad Brechlyn Ffliw

Ymateb i Estyniad Brechlyn Ffliw

0
59
- Advertisement -

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Thymor Hir a Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Efallai eich bod yn ymwybodol o gyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru y bydd brechiadau ffliw am ddim nawr i bobl 50 oed i 64 oed.

“Byddwch yn amyneddgar tra bod ein cydweithwyr mewn meddygfeydd teulu a fferyllfeydd cymunedol yn cynllunio ar gyfer y newid yma. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â chysylltu â’ch meddyg teulu neu fferyllfa gymunedol ar hyn o bryd ynghylch y brechlyn ffliw.

- Advertisement -

“Byddwn yn darparu diweddariad cyn gynted â phosibl gyda gwybodaeth am sut y gall pobl gael gafael ar y brechlyn ac o ble – ond byddwch yn ymwybodol efallai na fydd y brechlyn ffliw ar gael ar gyfer y grŵp cymwys newydd hwn o’n holl feddygfeydd teulu neu fferyllfeydd cymunedol. Bydd eglurhad yn cael ei ddarparu cyn gynted â phosibl.

“Sylwch, os ydych chi rhwng 50 oed a 64 oed â chyflwr iechyd tymor hir ac eisoes wedi derbyn gwahoddiad i dderbyn brechlyn ffliw, ewch ati i drefnu eich apwyntiad yn unol â chais eich meddyg teulu.”

- Advertisement -
Previous articleResponse To Flu Vaccine Extension
Next articleTwo-Week Virtual Christmas Fayre to Raise Funds for Charity

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content