- Advertisement -
Home Campaigns Burns Yn Dangos Y Ffordd Ynghylch Y Cyflog Byw Gwirioneddol

Burns Yn Dangos Y Ffordd Ynghylch Y Cyflog Byw Gwirioneddol

0
56
- Advertisement -

Unwaith eto, y cwmni maeth i anifeiliaid anwes yng Nghorllewin Cymru, sef Burns Pet Nutrition, yw un o’r mudiadau mwyaf blaenllaw yn ystod yr wythnos Cyflog Byw, a nhw sy’n cynnal y digwyddiad lansio yng Ngorllewin Cymru ac yn amlygu’r manteision sy’n dod o dalu’r Cyflog Byw gwirioneddol i weithwyr.

Y llynedd roedd John Burns, perchennog Burns Pet Nutrition, wedi cynnal digwyddiad ar gyfer wythnos Cyflog Byw yn y caffi ym Mharc y Bocs yng Nghydweli. Eleni, bydd y digwyddiad yn ddigwyddiad rhithwir, ond o mwy o bwys fyth:

- Advertisement -

Mae’n bleser gennym groesawu, unwaith yn ragor, lansiad wythnos Cyflog Byw yng ngorllewin Cymru. Ein cyflogai ni yw’r elfen bwysicaf o’n busnes, ac ‘rydym yn trin ein holl staff gyda’r parch mwyaf. Ni fu cefnogi’n gweithwyr a’n cymuned leol erioed yn bwysicach, ac ‘rydym yn ystyried y Cyflog Byw yn gyfle euraidd i fuddsoddi yn nyfodol ein cyflogai, ein sefydliad a’n hardal”.

Gyda’r holl bwysau sy’n wynebu cymaint o gyflogwyr ar draws y DU, mae cyflwyno telerau ac amodau gwaith moesegol yn bwysicach nag erioed. Mae cyflogwyr a achredir gan y Sefydiad Cyflog Byw yn cydnabod bod angen ar eu gweithwyr cyflog sy’n talu eu costau byw.

Mae’r Cyflog Byw gwirioneddol yn cael ei gyfrifo yn annibynnol yn flynyddol, er mwyn pennu’r swm sy’n rhaid i weithwyr ennill i sicrhau na fyddant yn mynd i dlodi ‘mewn gwaith’. Mae’r Wythnos Cyflog Byw flynyddol yn gyfle i gydnabod cyflogwyr achrededig sy’n talu’r gyfradd hon fel isafswm cyflog i’w cyflogai.

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fydd yn agor yr wythnos ac yn cyhoeddi’r gyfradd newydd, ynghyd â chynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dilynir hyn gan ddigwyddiadau lansio yng Nghorllewin a Gogledd Cymru.

Mae Burns Pet Nutrition wedi hen hyrwyddo’r Cyflog Byw gwirioneddol, a bydd cyflogwyr rhanbarthol yn mynychu eu digwyddiad. Cefnogir y digwyddiad gan Helen Mary Jones AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Economi, Taclo Tlodi a Thrafnidiaeth, a ddywedodd:

Mae’n bwysig ein bod yn dathlu’r holl gyflogwyr yng Nghymru sydd wedi ymrwymo at dalu cyflog teg i’w gweithlu, yn enwedig y rhai hynny sy’n byw mewn cymunedau mwy gwledig. Gall y Cyflog Byw gwirioneddol helpu’r adferiad wedi Covid, ac mae’n bleser gen i ymuno â Burns unwaith eto i amlygu’r gwaith y maen nhw’n ei wneud ar draws y rhanbarth; maen nhw wir yn ysbrydoliaeth”.

Sarah Hopkins yw Cyfarwyddwr Cynnal Cymru, y corff achrededig ar gyfer y Cyflog Byw yng Nghymru. Dywedodd Ms Hopkins bod cyflogwyr Cyflog Byw gwirioneddol yn chwarae rhan hanfodol eleni yn sicrhau bod llai o bobl yn dioddef yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni:

Mae cyflogwyr Cyflog Byw gwirioneddol yng Nghymru wedi ymrwymo i ddileu tlodi mewn gwaith drwy dalu cyflog i’w gweithwyr sydd yn eu galluogi nhw i fyw, ac nid ond goroesi yn unig. Dathlu hyn yw pwrpas yr wythnos hon, dathlu’r holl bethau da y mae’r mudiadau Cymreig hyn yn gwneud; ond eleni mae’r cyfan yn digwydd pan fod cymaint o unigolion a chyflogwyr yn wynebu caledi mawr. Rhaid sicrhau ein bod yn goroesi’r argyfwng hwn, a bod cyflogau pobl ddim yn dychwelyd i lefelau tlodi. Yn Cynnal Cymru, ‘rydym yn cefnogi cyflogwyr i ddeall y manteision syn dod o achredu eu busnes”.

Mae Katie Roderick, Rheolwr Adnoddau Dynol Burns Pet Nutrition, yn cydweithio’n agos gyda’r timoedd ar draws y busnes. Mae Katie yn credu’n gryf yn y Cyflog Byw gwirioneddol ac o’r farn bod cael eu hachredu’n gyflogwr Cyflog Byw yn rhan allweddol o’u hymrwymiad a pharch tuag at pob aelod o staff:

Mae talu’r Cyflog Byw gwirioneddol yn galluogi ein timoedd gwerthfawr i gyfranogi at waith ystyrlon ac i gael gwell cydbwysedd bywyd a gwaith. Mae ond yn un o’n ffyrdd o ddangos i bawb sy’n gweithio i Burns cymaint ‘rydym yn eu gwerthfawrogi, ac ‘rydym wedi gweld bod y fath agwedd wedi golygu ein bod yn cadw’n cyflogai a’u bod yn ymrwymo yn fwy at y cwmni. Mae hyrwyddo’r sefydliad Cyflog Byw hefyd yn cynnal ein henw ardderchog fel cyflogwr o ddewis, ac ‘rydym yn gwneud ein gorau i ledaenu’r neges hon ymysg ein cyd-fusnesau”.

Mae’r wythnos Cyflog Byw yn dechrau ar ddydd Llun, Tachwedd 9fed.

Os hoffech wybod mwy am y Cyflog Byw, neu am fynychu un o’r digwyddiadau a gynhelir yn ystod yr wythnos Cyflog Byw, ebostiwch Bethan yn bethan@cynnalcymru.com neu Mari Arthur mari@marthurmarketing.co.uk (07799431060) os gwelwch yn dda.

www.cynnalcymru.com/living-wage

- Advertisement -
Previous articleBurns Leads The Way On The Real Living Wage
Next articleTalk About Your Mental Health

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content