- Advertisement -
Home More News Newyddion Lle ‘Mae modd trechu gwleidyddiaeth asgell dde drwy gadw at ein gwerthoedd o...

‘Mae modd trechu gwleidyddiaeth asgell dde drwy gadw at ein gwerthoedd o ddynoliaeth a chynhwysiant’ – Plaid Cymru

0
22
- Advertisement -

Liz Saville Roberts i annerch tyrfaoedd yng ngorymdaith y Together Alliance yn erbyn yr asgell dde

Heddiw (Dydd Sadwrn 28 Mawrth) bydd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS yn traddodi araith yn ystod ‘Gorymdaith yn erbyn yr Asgell Dde’ y Together Alliance yn Llundain.

Mae’r Together Alliance yn glymblaid eang o sefydliadau, undebau llafur, pleidiau gwleidyddol, grwpiau cymunedol a ffigurau cyhoeddus a ffurfiwyd i wrthwynebu cynnydd yr asgell dde eithafol. 

- Advertisement -

Bydd yr orymdaith yn digwydd yng nghanol Llundain, gan orffen gyda rali o areithiau a cherddoriaeth. Mae’r trefnwyr yn disgwyl degau o filoedd o bobl i fynychu.

Bydd Liz Saville Roberts AS yn traddodi araith ac yn cynrychioli Plaid Cymru. Dywedodd Ms Saville Roberts, wrth i wleidyddiaeth asgell dde eithafol ennill tir, fod Plaid Cymru wedi dangos yng Nghymru bod modd ei “herio a’i threchu” drwy gadw at ein egwyddorion. Daw hyn yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol Plaid Cymru yn isetholiad Caerffili, lle curon nhw Reform gyda mwyafrif o 3,848 o bleidleisiau ar ôl cwymp yn y gefnogaeth i Lafur. 

Mae’r pôl YouGov diweddaraf ar gyfer etholiad y Senedd, a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, yn awgrymu y gallai canlyniad yr isetholiad gael ei efelychu ledled Cymru ym mis Mai, gyda Plaid Cymru ar y blaen mewn ras dau geffyl gyda Reform UK. Dywedodd Ms Saville Roberts fod isetholiad Caerffili wedi cadarnhau mai “dim ond Plaid Cymru all atal Reform” yng Nghymru.

Wrth siarad cyn y digwyddiad heddiw, dywedodd Liz Saville Roberts AS: 

“Ar adeg pan fo gwleidyddiaeth asgell dde eithafol yn ennill tir, rydym wedi dangos yng Nghymru bod modd ei herio a’i threchu drwy gadw at ein egwyddorion. 

“Gyda etholiad y Senedd ym mis Mai ar y gorwel, mae Plaid Cymru yn falch o sefyll dros ddynoliaeth a chynhwysiant. Rydym yn sefyll yn gadarn yn erbyn hiliaeth a chasineb gwrth-fudwyr ym mhob ffurf. 

“Cadarnhaodd isetholiad Caerffili bod modd atal Reform yng Nghymru os bydd blaengarwyr yn uno y tu ôl i Plaid Cymru. Ym mis Mai, mae gennym gyfle i efelychu hynny ledled Cymru. 

“Rwy’n falch heddiw o ymuno â blaengarwyr o bob cwr o Senedd San Steffan, ynghyd ag o gymdeithas yn ehangach i ddweud mai ‘digon yw digon’ a galw allan y celwyddau sy’n cael eu rhannu gan yr asgell dde eithafol.”

- Advertisement -
Previous article‘Far-right politics can be defeated by standing firm in our principles of inclusion and humanity’ – Plaid Cymru
Next article‘Labour’s manifesto isn’t a new chapter – it’s the final chapter in a book the people of Wales have already closed’ – Plaid Cymru 
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content