Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn annog pob person cymwys sydd eto i gael eu dos atgyfnerthu COVID-19 yr hydref a/neu eu brechlyn ffliw blynyddol i gael eu hamddiffyn.
Gyda phwysau aruthrol ar adrannau brys ac ysbytai, mae’r canolfannau brechu torfol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro bellach ar agor ar gyfer sesiynau galw heibio ar gyfer eich pigiad ffliw a COVID-19.
Rydych yn gymwys os ydych yn:
• 50 oed neu drosodd
• preswylydd neu staff mewn cartrefi gofal i bobl hŷn
• gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen
• rhwng 5 a 49 oed sydd mewn grŵp risg clinigol, a’u cysylltiadau cartref
• gofalwr rhwng 16 a 49 oed
Dywedodd Dr Joanne McCarthy, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Feirws y ffliw sy’n achosi’r ffliw. Gall fod yn salwch annymunol iawn ac arwain at broblemau difrifol, fel broncitis a niwmonia.”
“Mae ysbytai ar draws rhanbarth Hywel Dda yn trin nifer uchel o gleifion â salwch anadlol ac mae brechiadau yn ffordd ddiogel ac effeithiol o helpu i atal rhag mynd yn ddifrifol wael os byddwch chi’n dal y ffliw neu COVID-19 y gaeaf hwn.”
Lleoliadau ac Oriau Agor Canolfannau Brechu Torfol:
- Aberystwyth (Llyfrgell Thomas Parry, Campws Llanbadarn, SY23 3AS) 10.00am tan 6.00pm Dydd Mercher i ddydd Sul, ar gau ar ddydd Llun a dydd Mawrth.
- Caerfyrddin (Y Gamfa Wen, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, SA31 3EP) 10.00am tan 6.00pm o ddydd Sul i ddydd Iau, ar gau ddydd Gwener a dydd Sadwrn. Sylwch: bydd y ganolfan yn cau’n barhaol ar 29 Ionawr 2023, ond mae Llanelli (Dafen) yn parhau i fod ar agor ar gyfer sesiynau galw heibio.
- Cwm Cou (Ysgol Trewen, SA38 9PE) 1.00pm i 5.00pm dydd Gwener i ddydd Mawrth, ar gau dydd Mercher a dydd Iau
- Hwlffordd (Archifdy Sir Benfro, SA61 2PE) 10.00am tan 6.00pm, dydd Llun i ddydd Sul – ar agor 7 diwrnod yr wythnos
- Llanelli (Ystad Ddiwydiannol Dafen , SA14 8QW) 10.00am tan 6.00pm o ddydd Sul i ddydd Iau, ar gau ddydd Gwener a dydd Sadwrn













