- Advertisement -
Home More News Newyddion Lle Ailddechrau Gwasanaethau Glanhau Strydoedd

Ailddechrau Gwasanaethau Glanhau Strydoedd

0
52
- Advertisement -

nl-logo

Mae’r gwasanaethau glanhau strydoedd arferol ledled Sir Gaerfyrddin wedi ailddechrau, yn sgil dychweliad staff a gafodd eu hadleoli i gefnogi gwasanaethau rheng flaen yn ystod y pandemig Coronafeirws.

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin, er bod ei drefn arferol o gynnal a chadw strydoedd wedi dychwelyd, y dylai pobl fod yn ymwybodol mai nhw sy’n gyfrifol am eu gwastraff eu hunain – ni fydd gollwng sbwriel a thipio anghyfreithlon yn cael ei oddef.

- Advertisement -

Mae’r Cyngor wedi gofyn i bobl helpu i gadw’r Sir yn lân, gan roi gwybod am finiau sbwriel llawn a mynd â’u sbwriel adref gyda nhw os nad ydynt yn dod ar draws bin cyfagos.

Ni ddylai gwastraff ailgylchadwy, megis poteli gwydr, gael ei adael ar y ddaear mewn safleoedd ailgylchu cymunedol gan fod hyn hefyd yn cael ei ystyried yn ollwng sbwriel.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydym yn falch ein bod wedi gallu ailddechrau ein gwasanaethau glanhau arferol yr wythnos hon. Rydym yn annog pobl i waredu eu gwastraff yn y ffordd gywir drwy roi eu sbwriel allan i’w gasglu heb fod yn gynharach na 6 yr hwyr y noson cynt, ac yn y bag lliw cywir. Gellir mynd ag unrhyw wastraff sy’n peryglu iechyd a diogelwch yn y cartref i’r canolfannau ailgylchu ar ôl gwneud apwyntiad ar-lein.

“Mae tipio anghyfreithlon nid yn unig yn edrych yn salw ac yn denu bywyd gwyllt, mae hefyd yn gostus i’r trethdalwr. Mae gollwng gwastraff a disgwyl i bobl eraill ei godi yn annerbyniol. Byddwn yn cymryd camau i adennill costau oddi wrth unrhyw un a gaiff ei weld yn gwaredu gwastraff fel hyn.”

Yn ogystal â chasgliadau wythnosol o dŷ i dŷ, atgoffir pobl bod y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref wedi ailagor ar gyfer unrhyw wastraff cartref hanfodol a allai beryglu iechyd a diogelwch yn y cartref.

- Advertisement -
Previous articleLlanelli Senedd Member Thanks Carers
Next articleBron i 2,000 o deuluoedd yn elwa ar gymorth digidol

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content