- Advertisement -
Home More News Newyddion Lle Bron i 2,000 o deuluoedd yn elwa ar gymorth digidol

Bron i 2,000 o deuluoedd yn elwa ar gymorth digidol

0
41
- Advertisement -

nl-logo

Mae’r Cyngor yn darparu cymorth digidol i bron i 2,000 o deuluoedd ledled Sir Gaerfyrddin yn ystod y pandemig coronafeirws.

Mae cyfanswm o 1,600 o gyfrifiaduron yn cael eu dosbarthu, ac mae’r Cyngor yn helpu 300 yn rhagor o deuluoedd sydd â phroblemau cysylltu er mwyn i blant barhau i ddysgu o’u cartrefi.

- Advertisement -

Mae adran TG y Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd sydd wedi cynorthwyo o ran cyflenwi a pharatoi offer.

Maent wedi gallu nodi dyfeisiau addas er mwyn gosod y feddalwedd ddiweddaraf ac ailddefnyddio’r cyfrifiaduron i helpu disgyblion i barhau gyda’u gwaith ysgol.

Mae problemau cysylltu hefyd wedi bod yn broblem fawr i lawer o deuluoedd, gan gynnwys y teulu Thomas o’r Dryslwyn.

Mae Abigail, yn gweithio yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, ac mae’n fam i dri o blant 10, 13 a 16 oed sy’n mynychu Ysgol Gynradd Nantgaredig ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth. Eglurodd fod lled band y rhyngrwyd yn y cartref yn isel iawn a bod hyn yn atal ei phlant rhag cyflawni eu gwaith yn effeithiol.

Rhoddwyd gliniadur a dongl iddi, sydd wedi datrys y problemau yr oeddent yn eu cael wrth lawrlwytho ac anfon gwaith.

Dywedodd Mrs Thomas: “Roedd yn hunllef, nid oedd y plant yn gallu gwneud unrhyw waith ar Google Classroom, byddai’n cymryd diwrnod dim ond i lawrlwytho rhywbeth, ac yna’r un peth i geisio uwchlwytho gwaith.

“Roedd yn golygu eu bod yn gorfod argraffu’r gwaith a’i wneud ar bapur, yna tynnu llun ohono a’i anfon ar e-bost at yr athro; nid oedd y sefyllfa’n un delfrydol.

“Mae fy merch yn astudio ar gyfer Safon UG felly roeddem yn lwcus iawn i gael y gliniadur a’r dongl. Mae gennym ddau liniadur gartref, ond nid ydynt yn gweithio’n iawn. Mae pethau gymaint yn well, mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr, ac mae’r plant yn hapusach o lawer. Mae fwy na thebyg yn llawer haws i’r athrawon hefyd.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £3 miliwn i gefnogi dysgwyr sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yng Nghymru yn ystod yr achosion o coronafeirws.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Rwy’n falch iawn ein bod yn helpu cymaint o deuluoedd yn Sir Gaerfyrddin; ni ddylai’r un plentyn fod ar ei hôl hi gan ei fod heb gyfrifiadur neu fand eang.

“Mae hon yn ymdrech logistaidd enfawr ac rwyf am ddiolch i swyddogion ym mhob rhan o’r Cyngor a’r ysgolion sydd wedi gweithio gyda’i gilydd i ddarparu’r cymorth hwn i deuluoedd cyn gynted â phosibl.”

Mae’r broses o ddosbarthu’r offer bron wedi’i chwblhau; mae ysgolion mewn cysylltiad â gweddill y teuluoedd i drefnu eu casglu.

Mae mynediad i ddysgu a chysylltedd yn un o’r blaenoriaethau allweddol yng nghynllun Dysgu o Bell y Cyngor sy’n ceisio lliniaru’r effaith o gau ysgolion ar blant a phobl ifanc cymaint â phosibl er mwyn iddynt allu dal i fyny’n gyflym.

Bydd ysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn ailagor o 29 Mehefin hyd at 24 Gorffennaf er mwyn i blant ‘ddod i’r ysgol a dal ati i ddysgu’ cyn gwyliau’r haf. Bydd hyn yn cynnwys sesiynau wyneb yn wyneb gyda’u hathrawon yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â pharhau gyda’u gweithgareddau dysgu o bell.

- Advertisement -
Previous articleAilddechrau Gwasanaethau Glanhau Strydoedd
Next articleWounded Veterans Face Health Worries During The Covid-19 Pandemic

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content