Heddiw, mae elusen Crimestoppers yn lansio ymgyrch ffres ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys i amlygu troseddu cyfundrefnol, ac mae’n gofyn am eich help chi trwy adrodd unrhyw wybodaeth am weithgarwch troseddol drwgdybiedig mewn ffordd ddienw.

Er bod Dyfed-Powys yn un o’r mannau mwyaf diogel i fyw yn y DU, mae’r ymgyrch ddigidol newydd yn amlygu’r ffaith bod troseddwyr yn ceisio ehangu eu gweithgareddau i’w siroedd. Boed hynny’n ymdrechion i sefydlu rhwydweithiau delio cyffuriau ‘Llinellau Sirol’ neu sefydlu ffatrïoedd canabis, gall y gweithgareddau hyn, y maent yn aml yn gysylltiedig gyda grwpiau troseddu cyfundrefnol, gamfanteisio ar y rhai agored i niwed a pheri niwed i gymunedau a busnesau cyfreithlon.
Fis diwethaf, rhoddwyd dedfryd o garchar i ddau ar bymtheg obobl yn dilyn gweithrediad llwyddiannus a dargedodd ddelwyr cyffuriau yng Nghanolbarth Cymru, lle yr atafaelwyd heroin a chrac cocên a oedd yn werth dros ddeg mil o bunnoedd.
Mae Crimestoppers yn gweithio gydag amrediad o bartneriaid lleol, sy’n ffurfio ‘Project Diogel’ gyda’i gilydd, a’u nod yw helpu i atal troseddau cyfundrefnol a throseddau treisgar difrifol trwy godi ymwybyddiaeth ymhlith cymunedau a’u hannog i fod yn wyliadwrus ac i godi eu llais ynghylch pryderon am droseddu. Mae gwybodaeth gymunedol gan breswylwyr a busnesau, boed hynny i’r awdurdodau neu’n ddienw trwy Crimestoppers, yn hanfodol er mwyn rhoi stop ar droseddwyr.
Dywedodd Ditectif Uwch-arolygydd Estelle Hopkin-Davies, Cadeirydd Bwrdd Troseddu Cyfundrefnol a Thrais Difrifol Dyfed-Powys, a elwir ‘Project Diogel’:
“Er bod Dyfed-Powys yn un o’r mannau mwyaf diogel i fyw yn y DU, nid ydym yn ddi-hid am gyrhaeddiad penderfynol ac eangtroseddu cyfundrefnol ar draws cefn gwlad Cymru. Rydym yn cefnogi ymgyrch Crimestoppers er mwyn helpu i gadw Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys yn ddiogel trwy atal troseddu cyfundrefnol difrifol.
“Trwy gyfrwng Project Diogel, rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i wneud Dyfed-Powys yn fan anghyfeillgar ar gyfer troseddu cyfundrefnol, ac er mwyn diogelu ein cymunedau. Rydym yn dymuno rhoi stop ar ddelio cyffuriau a throseddau a ysgogir ganddo, megis cynhyrchu cyffuriau, caethwasiaeth fodern a chamfanteisio, byrgleriaeth a dwyn, arfau a thrais. Gall eich gwybodaeth chi helpu i atal y camfanteisio a’r niwed y mae’r troseddwyr hyn yn ei wneud i’n preswylwyr a’n cymunedau. Apeliwn arnoch i adnabod pan fydd rhywbeth o’i le yn eich cymunedau ac i ddweud wrthym amdano. Os bydd yn teimlo’n anghywir, mae’n debygol ei fod yn rhywbeth anghywir. Nid oes yn rhaid i chi fod yn siŵr, dim ond eich bod yn pryderu.”
Dywedodd Ella Rabaiotti, Rheolwr Crimestoppers yng Nghymru:
“Mae Dyfed-Powys yn lle prydferth i fyw a gweithio, fodd bynnag, mae rhai yn dymuno difetha hyn. Rydym yn gweithio gydag amrediad o sefydliadau ar draws y rhanbarth fel rhan o ‘Brosiect Diogel’ – dull partneriaeth er mwyn atal a stopio trais difrifol a throseddu cyfundrefnol. Fodd bynnag, ni allwn wneud hyn heb help preswylwyr a busnesau; mae gan bawb rôl i’w gyflawni wrth atal troseddu.
Yn arbennig, rydym yn annog landlordiaid eiddo, asiantau gosod a’r rhai sy’n rhedeg gwestai a llety i westeion i fod ar eu gwyliadwriaeth am droseddwyr sy’n defnyddio eu safleoedd. Gallai’r arwyddion i gadw golwg amdanynt gynnwys:• Cynigion i dalu ymlaen llaw gan ddefnyddio arian parod• Maent yn ymddangos yn gyfoethog ond yn dymuno rhentu eiddo rhad• Ni allant ddarparu geirda cyflogaeth na chan landlord• Mae’n well ganddynt dalu eu rhent mewn arian parod heb gyfiawnhad da dros hynny• Maent yn eich atal rhag archwilio eich eiddo pan roddir rhybudd rhesymol iddynt
Os bydd gennych chi unrhyw wybodaeth neu os byddwch yn amau bod troseddu cyfundrefnol yn digwydd, a fyddech gystal ârhoi gwybod i’n helusen. Gallwch siarad â’n Canolfan Gyswllt yn ddiogel trwy ffonio rhif rhadffôn 0800 555 111 neu ddefnyddio ein ffurflen ar-lein na ellir ei holrhain. Byddwch yn aros yn hollol ddienw. Bob tro. Ni fyddwn fyth yn gofyn am eich enw ac ni fydd eich galwad ffôn neu’ch adroddiad ar-lein fyth yn cael ei olrhain”
Gellir gweld rhagor o fanylion am yr ymgyrch hon yma.














