- Advertisement -
Home More News Local News Ailgychwyn ein gwasanaethau ysbyty

Ailgychwyn ein gwasanaethau ysbyty

0
55
- Advertisement -

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn estyn allan at bob claf y mae ei lawdriniaethau wedi cael eu gohirio oherwydd pandemig Covid-19 wrth i ni geisio ailgychwyn cymaint o lawdriniaethau a gynlluniwyd â phosibl.

Mae’r bwrdd iechyd wedi ysgrifennu at yr holl gleifion sydd wedi bod ar restr aros am hyd at 52 wythnos i sefydlu a oes angen llawdriniaeth arnynt o hyd. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn cysylltu â phobl ar restrau aros eraill wrth i ni baratoi ar gyfer ailgychwyn gofal dewisol yn ein hysbytai.

- Advertisement -

O ganlyniad i bandemig Covid-19, bu’n rhaid i’r bwrdd iechyd ganslo nifer fawr o lawdriniaethau fel y gallai ein staff a’n hadnoddau gael eu hadleoli yn ein hysbytai acíwt. Yn anffodus, mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar gleifion sydd wedi bod yn aros i gael llawdriniaeth arferol – rydym am fynegi ein hymddiheuriadau dwysaf.

Er na allwn eto roi ateb pendant ynghylch pryd y bydd llawfeddygaeth arferol yn cael ei hailgychwyn, ein nod yw ailgychwyn cymaint ag y gallwn o fewn cyfyngiadau’r pandemig parhaus, gan gydnabod bod tonnau pellach o feirws Covid-19 yn dal yn bosibl. Yr eithriad i hyn yw llawdriniaethau i’r rheini yr ystyrir eu bod glinigol frys a chleifion ar lwybrau canser, yr ydym wedi parhau i’w cynnal trwy gydol y pandemig.

Yn y cyfamser rydym yn cynnig mynediad at ystod o adnoddau ar-lein a ddatblygwyd gan glinigwyr yn Hywel Dda fel y gall cleifion helpu i reoli eu cyflyrau wrth iddynt aros – gellir cael mynediad yma:

Paratoi ar gyfer Triniaeth – Cyngor ar ffordd o fyw – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru).

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Yn yr un modd ag ymddiriedolaethau’r GIG a byrddau iechyd ledled y wlad, mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith andwyol ar y ffordd yr ydym yn gallu darparu gwasanaethau ar hyn o bryd, ac rydym yn ymddiheuro i bawb sy’n aros am lawdriniaeth am y siom y gwyddom y bydd hyn yn ei achosi.

“Mae ein timau clinigol a darparu gwasanaethau yn gweithio’n hynod o galed i gynyddu nifer y bobl y gallwn eu trin, ond rydym yn wynebu ôl-groniad sylweddol a byddem yn apelio ar gleifion i ymddiried ynom ni wrth i ni ailgychwyn y gwasanaethau hyn ac yn y pen draw ceisio dychwelyd at lefelau arferol o weithgaredd.

“Yr hyn y mae’r pandemig wedi’i ddangos inni yw bod angen i ni wella’r ffordd yr ydym yn hysbysu cleifion ac yn ymgysylltu â hwy am wasanaethau yn y tymor hir, ac yn y dyfodol byddwn yn edrych i ddatblygu system fwy cydgysylltiedig ar gyfer cyfathrebu ac ymateb i gwestiynau mewn modd amserol, gan ddarparu gwybodaeth a chyngor cyffredinol a sicrhau mynediad at gyngor a chefnogaeth glinigol yn ôl yr angen.

“Yn y cyfamser hoffem annog cleifion sy’n aros am driniaethau dewisol i ddefnyddio ein hadnoddau ar-lein lle bynnag y bo modd, gan y bydd rhain yn helpu gyda reoli eich cyflyrau wrth iddych aros. Byddem hefyd yn annog cleifion yn gryf i roi gwybod i ni os nad oes angen i chi fod ar restr aros mwyach, ac yn benodol, byddem yn annog unrhyw un sy’n cael apwyntiad i’w dderbyn a pheidio ag aros i gael ei frechu yn erbyn Covid-19 cyn mynychu.”

The post Ailgychwyn ein gwasanaethau ysbyty first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleKeep Wales Safe Campaign – Over 14,000 GP consultations carried out virtually in past 12 months
Next articleAn Opportunity To Help Your Community
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content