Bu i Nerys Evans a Cefin Campbell, Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd dros Sir Gaerfyrddin gwrdd â chynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru wythnos diwethaf (dydd Gwener, 10 Gorffennaf) yng Ngurnos, fferm deuluol Llywydd yr Undeb, Ian Rickman ger Llandeilo.
Ers cael eu hethol fel y brif blaid yn y Senedd yn yr etholiad ym Mai eleni, mae Llywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru eisoes wedi cyflwyno sawl polisi fydd yn mynd i’r afael â heriau mae ffermwyr yn eu hwynebu, ac yr oedd undebau amaeth a’r sector yn ehangach yn galw amdanynt.
Ddechrau fis Mehefin, cyhoeddodd Llŷr Gruffydd AS, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, y byddai John Davies, ffermwr cig eidion a defaid o gyffiniau Aberhonddu a chyn-Lywydd NFU Cymru, yn cadeirio adolygiad o waith papur y mae ffermwyr ac asiantiaid yn eu hwynebu.
Bythefnos yn ôl, cyhoeddodd Mr Gruffudd y byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu benthyciadau llog isel o hyd at £1,000,000 ar gyfer ffermwyr yng Nghymru er mwyn buddsoddi mewn – ymysg pethau eraill – gwella adeiladau amaethyddol, gwella effeithlonrwydd a chynhyrchiant ynni, neu brynu offer newydd.
Yn siarad wedi’r ymweliad yn ei hetholaeth, dywedodd Nerys Evans AS, cyn-aelod o fwrdd yr FUW am 7 mlynedd:
“Yn ystod etholiad y Senedd yn gynharach eleni – ac wrth galon ein cynllun ar gyfer ein can niwrnod cyntaf mewn llywodraeth – ymrwymon ni i ddechrau ar unwaith ar y gwaith i leddfu’r heriau sy’n wynebu’r sector amaethyddol.
“O roi benthyciadau llog isel i alluogi ffermydd i wella eu heffeithlonrwydd i fynd ati ar unwaith i ganfod ffyrdd y mae posib torri gwaith papur yn y sector, rydym wrthi’n barod yn gwireddu hynny. Dwi’n edrych ymlaen at weld yr effaith bydd y llywodraeth hon yn ei gael dros y blynyddoedd nesaf.”
Dywedodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru:
“Mae amaethwyr Cymru yn wynebu cyfnod hynod heriol ar hyn o bryd, gyda nifer o faterion dyrys yn rhoi pwysau ar y sector – o addasu i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a disgwyliadau pellgyrhaeddol y rheoliadau llygredd amaethyddol, i effaith barhaus TB buchol ar les emosiynol ac ariannol ein ffermwyr.
“Roedd hi felly’n bleser mawr croesawu Cefin a Nerys i’r Gurnos a chael y cyfle i drafod y materion allweddol hyn, yn ogystal a manylu ar rhai o’r polisïau y mae’r Llywodraeth newydd eisoes wedi’u cyhoeddi i gefnogi’r sector a rhoi mwy o sicrwydd i ffermwyr Cymru.”











