- Advertisement -
Home More News Newyddion Lle Cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd i brosiect Pentre Awel yn Llanelli sydd...

Cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd i brosiect Pentre Awel yn Llanelli sydd yn werth £40m

0
35
- Advertisement -

Roedd cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd i’r prosiect gwerth miliynau o bunnoedd yn Llanelli, Pentre Awel fydd yn cynnwys cyfleusterau ymchwil busnes, addysg, iechyd a hamdden.

Trafodwyd y cynllun yn ystod Cwestiynau Iechyd am gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

- Advertisement -

Rhagwelir y bydd yr elfennau ym mhrosiect Pentre Awel a gyllidir gan y Fargen Ddinesig yn creu 1,289 o swyddi, ac unwaith i’r holl safle gael ei datblygu, bydd hyn yn codi i 1,800 o swyddi fydd yn rhoi hwb o £467m i’r economi lleol.

Dywedodd AoS Plaid Cymru Helen Mary Jones:

“Rwy’n credu y gall lleoli cyfleusterau gofal iechyd o’r radd flaenaf yn ein cymunedau tlotaf gyfrannu at ymdrin ag anghydraddoldeb mewn iechyd. Rwyf eisiau llongyfarch Cyngor Sir Gar dan arweiniad Plaid Cymru a’r holl bartneriaid yn natblygiad Pentre Awel yn Llanelli, fydd wedi ei leol yng nghanol rhai o’r wardiau tlotaf yng nghymru. Bydd y prosiect yn cynnwys canolfan gofal clinigol fydd yn cyflwyno gofal amlddisgyblaethol, canolfan ymchwil glinigol, a chanolfan sgiliau lles, i ganolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, a chanoli’r hyfforddiant hwnnw yn arbennig ar recriwtio o blith y cymunedau hynny. Hoffwn longyfarch pawb fu’n rhan o hyn. Dyma’r math o brosiectau all wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau lle mae mwyaf eu hangen.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: “…mae’n enghraifft dda o sut y gall ac y dylid dwyn gwasanaethau iechyd a gofal lleol ynghyd i roi cyfleusterau o ansawdd uwch, i fuddsoddi yn y gymuned honno a chyflwyno gwell gwasanaethau …mae’n mynd yn ôl at y berthynas well rhwng iechyd a llywodraeth leol trwy gydol yr argyfwng, ond cyn hynny hefyd, ac y mae gwir gyfle i ddal ati i fuddsoddi mewn gofal iechyd lleol a chyflwyno cyfleusterau gwell o lawer lle mae mwyaf eu hangen.”

The post Cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd i brosiect Pentre Awel yn Llanelli sydd yn werth £40m first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleCross Party Support In The Senedd For Llanelli’s £40m Pentre Awel Project
Next articleCalls For Immediate Support For Young People Facing Mental Health Problems
Helen Mary Jones
Helen Mary Jones is part of Plaid Cymru and a Member of Senedd for Mid and West Wales.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content