- Advertisement -
Home Environmental News Dysgwyr Gorllewin Cymru yn ymgymryd â her sero net y byd go...

Dysgwyr Gorllewin Cymru yn ymgymryd â her sero net y byd go iawn gyda diwydiant ynni Cymru

0
10
- Advertisement -

Mae dysgwyr mewn ysgolion ledled de-orllewin Cymru wedi cael cipolwg ymarferol ar yrfaoedd yn y sector ynni glân trwy fenter newydd gan Gyrfa Cymru. 

Mae heriau ‘Gwaith mewn Ffocws’, a ddatblygwyd gan Gyrfa Cymru mewn partneriaeth â Green GEN Cymru a’r Grid Cenedlaethol, yn helpu dysgwyr i archwilio ynni adnewyddadwy, datgarboneiddio, a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi yn y dyfodol yn y sector ynni.

Cynhaliwyd un o’r digwyddiadau yn ddiweddar yn Ysgol Gatholig Sant Ioan Llwyd yn Llanelli, lle cymerodd disgyblion Blwyddyn 7 ran mewn her a gynlluniwyd i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu perswadiol. Edrychodd y dysgwyr ar waith Green GEN Cymru a recordio podlediadau yn trafod manteision a heriau prosiect ynni adnewyddadwy, gan eu helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu wrth ddysgu am y gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â dyfodol gwyrdd Cymru.

- Advertisement -

Yn Ysgol Gyfun Emlyn yng Nghastell Newydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin, bu disgyblion Blwyddyn 8 yn gweithio gyda Green GEN Cymru i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu perswadiol trwy dasg diwydiant go iawn. Ar ôl dysgu am y sefydliad a’r ystod o rolau o fewn y sector, bu’r dysgwyr yn gweithio mewn timau i edrych ar fanteision ac anfanteision gwahanol systemau ceblau trydanol, gan gynnwys peilonau, ceblau tanddaearol a pholion telegraff.

Gyda chefnogaeth gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn yr ystafell ddosbarth, datblygodd y dysgwyr eu syniadau a chyflwyno eu canfyddiadau i banel, gyda dau dîm yn cael eu henwi’n gyd-enillwyr am gryfder eu cyflwyniadau terfynol.

Cefnogwyd y fenter hefyd gan sefydliad Diwydiant Sero Net Cymru, a helpodd i recriwtio’r cwmnïau a oedd yn cymryd rhan.

Dywedodd Aled Evans, cynghorydd cyswllt busnes yn Gyrfa Cymru: “Mae gweithio gyda chyflogwyr ledled de-orllewin Cymru yn caniatáu inni ddod â phrofiadau diwydiant go iawn i’r ystafell ddosbarth a helpu dysgwyr i ddeall sut mae’r sgiliau maen nhw’n eu datblygu yn yr ysgol yn berthnasol i gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.

“Rydym yn ddiolchgar i Green GEN Cymru a’r Grid Cenedlaethol am gefnogi’r heriau hyn a rhannu eu harbenigedd gyda dysgwyr. Mae’r gweithgareddau’n helpu pobl ifanc i edrych ar ynni adnewyddadwy, datgarboneiddio a gyrfaoedd gwyrdd yn y dyfodol, gan gael cipolwg ar yr heriau sy’n wynebu’r sector heddiw.”

Mae heriau ‘Gwaith mewn Ffocws’ wedi’u datblygu gyda chyflogwyr o sectorau twf allweddol ac wedi’u cynllunio i gefnogi Cwricwlwm i Gymru drwy gysylltu dysgu yn yr ystafell ddosbarth â heriau go iawn yn y diwydiant. Maent hefyd yn helpu pobl ifanc i fagu sgiliau hanfodol fel cyfathrebu, gwaith tîm a meddwl yn feirniadol.

Drwy gydweithio’n agos â phartneriaid fel Green GEN Cymru a’r Grid Cenedlaethol, mae Gyrfa Cymru yn anelu at roi dealltwriaeth gliriach i ddysgwyr o ddiwydiannau sy’n dod i’r amlwg ac ar yr un pryd helpu cyflogwyr i chwarae rhan uniongyrchol yn llunio gweithlu’r dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau yn y dyfodol ac adnoddau, ewch i wefanGyrfa Cymru.

- Advertisement -
Previous articleWest Wales learners take on real-world net zero challenge with Welsh energy industry
Next articleCarmarthenshire man banned from keeping animals for life after neglect
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content