- Advertisement -
Home Hywel Dda Health Charities Claf canser yn codi dros £3,800 i elusen y GIG

Claf canser yn codi dros £3,800 i elusen y GIG

0
1
- Advertisement -

Roedd Emma Masser eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r uned sydd wedi gofalu amdani mor dda, felly cododd swm anhygoel o £3,846 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

Mae Emma, ​​sy’n byw yn Llanelli, wedi bod yn derbyn triniaeth cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip ers dros 12 mis.

Fel diolch am y driniaeth anhygoel y mae’n ei derbyn, trefnodd Emma noson o adloniant yn gyntaf, a gynhaliwyd gan yr adlonydd lleol Kenny Morris, ac yna seiclothon 24 awr ym Mharc Gwledig Pen-bre.

- Advertisement -

Dywedodd Emma: “Cynhaliwyd y noson o adloniant yng Nghlwb Cymdeithasol Morfa ar 5 Ebrill ac roedd yn cynnwys bingo, raffl ac artistiaid lleol. Cynhaliwyd y seiclothon o hanner dydd ar 16 Mai i hanner dydd ar 17 Mai. Cawsom bobl yn beicio drwy gydol y 24 awr.

“Roedden ni’n poeni am werthiant tocynnau ar gyfer y digwyddiad cyntaf. Fodd bynnag, gwerthwyd pob tocyn ac ni allem fod wedi gofyn am well. Roedd yr ail ddigwyddiad yn heriol, yn bennaf oherwydd y tywydd, ond unwaith eto, roedd y gefnogaeth leol yn anhygoel.

“Roedden ni’n falch iawn ac wedi synnu gyda’r swm a godwyd. Doedd gennym ni ddim targed mewn golwg, gan fod unrhyw swm yn well na dim.

“Hoffem ddiolch i Glwb Cymdeithasol Morfa, Kenny Morris, Cyngor Sir Caerfyrddin ym Mharc Gwledig Pen-bre, CKs Foodstore, El Pascos a’r holl deulu a ffrindiau a helpodd a chefnogodd y ddau ddigwyddiad.”

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Waw, mae trefnu dau ddigwyddiad codi arian wrth fynd trwy driniaeth yn gamp anhygoel ac ni allwn fynegi ein diolchgarwch i Emma ddigon.

“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Yn lle hynny, fe’u defnyddir i ddarparu eitemau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG, fel amgylcheddau mwy croesawgar i gleifion, teuluoedd a staff, ac ymchwil i driniaethau, a’u datblygu.”

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i hywelddahealthcharities.nhs.wales.

- Advertisement -
Previous articleCouncil looking at a shake-up of its current charging system at dozens of car parks
Next articleCancer patient raises over £3,800 for NHS charity
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content