- Advertisement -
Home Carmarthenshire News Cymru v Lloegr: Great Western Railway yn rhedeg trenau ychwanegol ddydd Sadwrn...

Cymru v Lloegr: Great Western Railway yn rhedeg trenau ychwanegol ddydd Sadwrn ar gyfer gêm Bencampwriaeth y Chwe Gwlad

0
47
- Advertisement -

Bydd cwmni Great Western Railway yn rhedeg 11 o drenau ychwanegol a mwy na 6,000 o seddi ychwanegol ar gyfer cefnogwyr sy’n mynd i gêm Cymru yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ddydd Sadwrn.

Rugby fans arriving at Cardiff Central Railway Station before Wales v England Six Nations match .25/02/2023

Mae disgwyl i’r trenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y gêm yn Stadiwm y Principality a bydd system giwio ar waith tu allan i orsaf Caerdydd Canolog. Rydym yn atgoffa cefnogwyr i ganiatáu digon o amser i giwio er mwyn mynd ar y trenau’n ddiogel.

Bydd GWR yn rhedeg chwe gwasanaeth ychwanegol yn ogystal â’r amserlen arferol i Gaerdydd cyn dechrau’r gêm am 1645, a phum trên ychwanegol i gludo cefnogwyr rygbi adref ar ôl y gêm. Yn ogystal â’r trenau ychwanegol, bydd GWR yn rhoi cerbydau ychwanegol ar waith.

- Advertisement -

Gan ailddefnyddio’r system arferol sydd ar waith ar gyfer gemau’r Chwe Gwlad, gofynnir i’r cefnogwyr sy’n teithio i’r dwyrain at Gasnewydd giwio ar y sgwâr o flaen gorsaf Caerdydd Canolog, yn hytrach nag ym Maes Parcio Glan yr afon.

 

Cardiff Central map 2025 Six Nations

 

Dywedodd Rachel Geliamassi, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid GWR:

“Rydym yn falch i gefnogi’r cefnogwyr sy’n teithio i ac o Stadiwm y Principality unwaith eto. Fodd bynnag, hoffem atgoffa ein cwsmeriaid y bydd y trenau’n brysur iawn yn y cyfnod cyn dechrau’r gêm a’r cyfnod syth wedyn, a bydd system giwio ar waith yn yr orsaf.

“Byddem yn annog cwsmeriaid i wirio eu hamserau teithio ac i ganiatáu digon o amser i fynd ar y trên yn ddiogel.”

Mae GWR yn rhedeg pum gwasanaeth ychwanegol cyn y gêm, gan ddarparu 2,600 o seddi ychwanegol, ac oddeutu 3,000 o seddi ychwanegol (ar bum trên ychwanegol) ar ôl y gêm. Mae’r trenau hyn ar ben yr amserlen arferol.

I gael mwy o wybodaeth, neu i wirio’ch taith, ewch i GWR.com.

- Advertisement -
Previous articleJoe Roberts drafted onto Wales wing for England showdown
Next articleWales v England: Great Western Railway providing extra trains for Saturday’s Six Nations fixture
X
X
Skip to content