- Advertisement -
Home More News Newyddion Lle Cymru yn rhybuddio y gallai Cymru fod ar ei cholled o dan gynlluniau cymorth ynni sydd wedi’u targedu

Cymru yn rhybuddio y gallai Cymru fod ar ei cholled o dan gynlluniau cymorth ynni sydd wedi’u targedu

0
17
- Advertisement -

Liz Saville Roberts yn galw am ystyried oedran y stoc tai ac effeithlonrwydd ynni 

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wedi rhybuddio y gallai cynlluniau Llywodraeth y DU i gyfyngu ar gefnogaeth i aelwydydd gyda’u biliau ynni adael nifer anghymesur yng Nghymru heb gymorth, wrth i’r Canghellor Rachel Reeves baratoi i amlinellu amodau newydd ar gyfer cymorth.

Disgwylir i’r Canghellor nodi’r amodau a fyddai’n llywio unrhyw gefnogaeth i aelwydydd yn y dyfodol os bydd biliau ynni’n codi ar ôl i’r cap prisiau presennol ddod i ben ym mis Mehefin, gydag awgrymiadau y byddai unrhyw becyn wedi’i dargedu yn hytrach na wedi’i ddarparu i bawb.

- Advertisement -

Tynnodd Ms Saville Roberts sylw at sefyllfa arbennig o fregus cymunedau gwledig Cymru a rheiny oddi ar y grid, gan rybuddio bod cynlluniau a luniwyd yn bennaf o amgylch y defnydd o nwy drwy’r prif gyflenwad yn peryglu eithrio miloedd o aelwydydd.

Cymru sydd â’r stoc tai hynaf yn y DU, gyda 26% o gartrefi wedi’u hadeiladu cyn 1919. Mae Plaid Cymru hefyd wedi rhybuddio bod stoc tai llai effeithlon o ran ynni a lefelau uwch o dlodi tanwydd yn golygu bod aelwydydd Cymru yn fwy agored i unrhyw gynnydd sydyn mewn prisiau.

Galwodd Ms Saville Roberts ar y Prif Weinidog, Keir Starmer, i sicrhau bod llywodraethau datganoledig yn cymryd rhan lawn yn y broses o lunio unrhyw ymateb i gostau ynni cynyddol, gan gynnwys drwy uwchgynhadledd pedair gwlad rhwng y DU a’r llywodraethau datganoledig.

Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i:

•              Sicrhau bod unrhyw gynllun cymorth yn adlewyrchu anghenion penodol Cymru, gan gynnwys aelwydydd gwledig a rheiny oddi ar y grid

•              Sicrhau mynediad teg i’r rhai mewn cartrefi hŷn, llai effeithlon o ran ynni

•              Cynnal uwchgynhadledd pedair gwlad i gynllunio a darparu cefnogaeth yn effeithiol

Cyn datganiad y Canghellor ddydd Mawrth, dywedodd Ms Saville Roberts:

“Mae unrhyw gynllun wedi’i dargedu a luniwyd ar sail cyfartaleddau’r DU mewn perygl o anywbyddu’r realiti i aelwydydd Cymru, lle mae incwm yn is, cartrefi’n hŷn, ac effeithlonrwydd ynni’n waeth. 

“Os caiff y gefnogaeth ei chyfyngu heb gydnabod amgylchiadau penodol Cymru, bydd aelwydydd ar eu colled.

“Mae gormod o gynlluniau’r DU wedi’u cynllunio gyda’r grid nwy mewn golwg, ond mae rhannau helaeth o gefn gwlad Cymru yn dibynnu ar olew neu danwydd amgen. Heb gydnabod hyn, bydd llawer o deuluoedd yn cael eu hanwybyddu’n llwyr. Ni fydd y gefnogaeth sydd eisoes wedi’i chyhoeddi ar gyfer cartrefi oddi ar y grid yn ddigonol o ystyried lefel yr angen.

“Ni allwch gynllunio system deg heb ystyried y ffaith bod llawer o gartrefi Cymru yn anoddach ac yn ddrytach i’w gwresogi. Fydd dull un maint i bawb ddim yn sicrhau tegwch.

“Mae hefyd yn werth nodi bod trigolion yng Ngogledd Cymru a Merswy yn wynebu’r ffioedd sefydlog uchaf yn y DU. Mae fy etholwyr yn gorfod talu bron i £100 yn fwy y flwyddyn na’r rhai sy’n byw yn Llundain, felly byddwn yn annog y Canghellor, unwaith eto, i edrych ar ffioedd sefydlog annheg a mynd i’r afael â nhw. Ni ddylai pobl fod yn talu mwy am eu biliau ynni oherwydd ble maen nhw’n byw.

“Mae’r penderfyniadau a wnaed yn San Steffan yn arwain at ganlyniadau gwahanol iawn yng Nghymru. Os yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â thegwch, rhaid iddi weithio gyda llywodraethau datganoledig i sicrhau bod cefnogaeth yn adlewyrchu’r realiti ar lawr gwlad. Dyna pam mae Plaid Cymru wedi galw am uwchgynhadledd pedair gwlad i gytuno ar ddull ar y cyd.

“Mae hwn yn brawf i weinidogion i weld a ydynt yn deall sut mae eu penderfyniadau’n glanio mewn gwahanol rannau o’r DU. Nid yw polisi sy’n anwybyddu amgylchiadau Cymru yn deg, a bydd yn gadael pobl yn ein cymunedau i dalu’r pris.” 

- Advertisement -
Previous articlePlaid Cymru warns Wales risks losing out under targeted energy support plans 
Next articleChanges to bin collections in Carmarthenshire over the Easter period
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content