Mae mis arall o barcio am ddim yn cael ei gynnig yng nghanol trefi Sir Gaerfyrddin.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno i ymestyn y cyfnod presennol o barcio am ddim, a gyflwynwyd ar ddechrau cyfnod llwyrgloi Covid-19, drwy gydol mis Awst i gynnig haf o barcio am ddim ym meysydd parcio canol trefi.
Dywedodd Bwrdd Gweithredol y cyngor ei fod yn barod i dderbyn y golled sylweddol mewn incwm – dros £1.1 miliwn a fyddai fel arfer yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau priffyrdd a thrafnidiaeth hanfodol – i gefnogi busnesau canol tref wrth iddynt ymadfer yn sgil y pandemig.
Mae ei benderfyniad hefyd yn cefnogi’r newidiadau sy’n cael eu cyflwyno yng nghanol trefi Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman o 3 Awst ymlaen i ganiatáu cadw pellter cymdeithasol diogel, yn ogystal â chyfleoedd newydd i fasnachu y tu allan.
O 1 Medi ymlaen, bydd y cyngor yn dychwelyd at ei gynllun peilot parhaus sy’n cynnig parcio am ddim ar ddyddiau penodol i bob canol tref, yn seiliedig ar adborth gan fasnachwyr canol tref a fforymau busnes.
Bydd ymwelwyr yn dal i allu parcio am ddim ym meysydd parcio’r cyngor sir, hyd nes rhoddir gwybod fel arall, ar y dyddiau canlynol:
- Dydd Llun i ddydd Mercher, 10am-2pm, ym meysydd parcio canol tref Sanclêr, Castellnewydd Emlyn, Llanymddyfri, Llandeilo a Rhydaman
- Dydd Llun a dydd Mawrth, 10am-4pm, yng nghanol tref Llanelli (ynghyd â dydd Sadwrn a dydd Sul ym maes parcio Coleshill y tu ôl i Neuadd y Dref Llanelli)
- Dydd Mawrth a dydd Iau, 3.30pm-6pm, yng nghanol tref Caerfyrddin
Mae’r Bwrdd Gweithredol hefyd wedi cytuno i ohirio cynnydd arfaethedig o 20c mewn taliadau parcio tan y flwyddyn newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Yn ystod pandemig Covid-19 penderfynodd Cyngor Sir Caerfyrddin beidio â chodi tâl am barcio. Rydym wedi parhau i gynnig parcio am ddim am bedwar mis. Rwy’n cynnig ein bod yn parhau i gynnig parcio am ddim tan 1 Medi, drwy gydol mis Awst, er mwyn denu ymwelwyr a helpu rhieni sydd eisiau siopa ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, ac i gefnogi adfywio ein trefi.
“Er y bydd hyn yn effeithio ar ein cyllideb, mae’n bwysig ein bod yn cefnogi adfywio gan sylweddoli bod arian o’n meysydd parcio yn cefnogi llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus. Byddwn yn parhau i gynnig y cyfnodau am ddim sydd ar gael i bob tref ar hyn o bryd.”
Gallwch wylio we-ddarllediad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gweld yr adroddiad llawn ac eitemau eraill ar yr agenda drwy fynd i adran y Cyngor a Democratiaeth ar y wefan.












