- Advertisement -
Home More News Local News Diogelwch ar y Ffyrdd Gaeaf 2021

Diogelwch ar y Ffyrdd Gaeaf 2021

0
57
- Advertisement -

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn galw ar bob preswylydd i gymryd gofal ychwanegol wrth yrru. Mae 138 o Wrthdrawiadau Traffig Ffyrdd eisoes wedi cael eu cofnodi ledled ardal ein Gwasanaeth y gaeaf hwn.

Dywedodd y Rheolwr Diogelwch ar y Ffyrdd, sef y Rheolwr Gorsaf Spencer Lewis: 

- Advertisement -

“O ystyried niferoedd y gwrthdrawiadau traffig ffyrdd sydd wedi’u cofnodi eisoes y gaeaf hwn, mae’n hanfodol ein bod yn cymryd mwy o ofal ar y ffyrdd i helpu i leihau’r nifer hwn.

“Mae gyrru mewn amodau gaeafol gwael yn gofyn am ymagwedd wahanol, a thrwy wneud rhai newidiadau syml i arferion gyrru, gall gyrwyr leihau’r siawns y byddant yn rhan o wrthdrawiad.”

Ychwanegodd, “Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, gall amodau gyrru fod yn beryglus. Rwy’n annog modurwyr i fod yn barod i yrru’n ofalus ac addasu eu gyrru yn ôl yr amodau”.

“Os oes rhaid i chi fynd ar daith hanfodol, rydym yn eich cynghori’n gryf i wneud yn siŵr bod eich car yn barod ar gyfer y gaeaf trwy roi gwasanaeth gaeaf iddo – mae ceir yn torri i lawr yn fwy aml yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae’n bwysig eich bod yn gwirio cyflwr eich teiars, dyfnder y gwadnau a gwasgedd pob un, gan gynnwys eich teiar sbâr. Rydym hefyd yn argymell llunio pecyn argyfwng gaeaf, a ddylai gynnwys yr eitemau hanfodol canlynol: crafwr iâ a gwrthrewydd, gwasgod lachar, triongl rhybudd, ffôn symudol i’w ddefnyddio dim ond pan fyddwch wedi parcio, tortsh, byrbrydau, dŵr mewn potel, blanced, dillad cynnes, esgidiau cadarn a phecyn cymorth cyntaf.

Cofiwch am y cyngor diogelwch canlynol hefyd cyn cychwyn ar eich taith.

  • Gwiriwch ragolygon y tywydd a’r newyddion traffig  yn rheolaidd, a hynny’n lleol ac yn genedlaethol.
  • Cadwch ffenestr flaen eich car yn glir, ac ychwanegwch hylif golchi sgrin at eich potel olchi yn gyson. Cadwch y ffenestri a’r drychau yn gwbl glir o anwedd, iâ ac eira.
  • Rhowch fanylion eich taith i rywun, yn ogystal â’r amser yr ydych yn disgwyl cyrraedd.
  • Cadwch eich pellter gan fod pellteroedd stopio ddeng ngwaith hirach mewn iâ ac eira.
  • Addaswch eich gyrru mewn amodau rhewllyd. Peidiwch â brecio na chyflymu’n galed, na llywio’n rhy gyflym, ac yn bwysicaf oll, cofiwch arafu eich cyflymder.

Ewch i’n tudalennau Diogelwch ar y Ffyrdd i gael mwy o wybodaeth neu cysylltwch ag aelod o’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd yn RTC@mawwfire.gov.uk

Gallwch hefyd ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o negeseuon diogelwch. Twitter @mawwfire, Facebook @mawwfire ac Instagram @mawwfire_rescue

The post Diogelwch ar y Ffyrdd Gaeaf 2021 first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleCarmarthenshire Wellbeing Week
Next articleWinter Road Safety 2021
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content