- Advertisement -
Home Heol Goffa Disgwyl rhoi sêl bendith wythnos nesaf i Ysgol Newydd Heol Goffa  

Disgwyl rhoi sêl bendith wythnos nesaf i Ysgol Newydd Heol Goffa  

0
27
Ysgol Heol Goffa, Llanelli (pic by Richard Youle and free for use for wire partners)
- Advertisement -

Bydd Cabinet Cyngor Sir Gâr, yn eu cyfarfod ddydd Iau nesaf (Gorffennaf 31), yn ystyried rhoi sêl bendith i gynllun i adeiladu Ysgol Heol Goffa newydd gyda lle i 150 o ddisgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Llanelli. Mae hyn yn dilyn ystyriaeth drylwyr o adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan y cyngor am ddarpariaeth addysg arbennig yn ardal Llanelli, a thrafodaeth agored a manwl gyda llywodraethwyr Ysgol Heol Goffa, y staff a phartïon eraill sydd â diddordeb. 

Bydd yr argymhelliad yn cael ei wneud gan y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod  Cabinet dros Addysg, a ddywedodd: 

“Gallaf ddatgelu bod y Corff Llywodraethol wedi rhoi gwybod i ni y byddai’n cefnogi’r cyngor i fwrw ymlaen ag Opsiwn Pedwar yn yr adroddiad annibynnol – sef adeiladu ysgol newydd mwy, gyda lle i 150 o ddisgyblion sydd ag anawsterau dysgu cymedrol, difrifol neu ddwys. Mae’r opsiwn yma hefyd yn cael cefnogaeth y Pennaeth a staff yr ysgol. Rwy’ wir yn edmygu nhw am eu hamynedd a’u hagwedd resymol wrth ddod i’r casgliad hwn. 

- Advertisement -

“Yn seiliedig ar hynny, rwy’n falch iawn o gyhoeddi mai dyma’r opsiwn y byddaf yn ei argymell i’r Cabinet ddydd Iau nesaf. Gellir adeiladu Ysgol Heol Goffa newydd sy’n fwy o faint na’r un bresennol mewn amserlen fyrrach na’r opsiwn arall o ddarparu ysgol i 250 o ddisgyblion i gynnwys disgyblion â Chyflyrau Sbectrwm Awtistig. Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddarparu ar gyfer disgyblion ASC yn ardal Llanelli. 

“Os bydd yr opsiwn a ffefrir yn cael ei dderbyn gan fy nghyd–aelodau ar y Cabinet ddydd Iau nesaf, bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru i lunio cynllun busnes, gan y gallai ysgol arbennig newydd ar gyfer 150 o ddisgyblion gostio cymaint â £35m. 

“Rhaid i mi bwysleisio petai ni wedi bwrw ymlaen â’r cynllun gwreiddiol i adeiladu ysgol newydd y llynedd, fel yr oedd llawer eisiau, byddai wedi bod yn llawn ar y diwrnod cyntaf. Bydd yr hyn sy’n cael ei argymell nawr yn ganlyniad llawer gwell i ddisgyblion, rhieni a staff. 

“Ein blaenoriaeth fel cyngor yw sicrhau’r ddarpariaeth ADY orau ar gyfer disgyblion cenedlaethau’r dyfodol yn Llanelli, wedi’i gydbwyso gan alwadau eraill am ddarpariaeth addysgol gwell yn ardal Llanelli a rhannau eraill o’r sir, a gwerth am arian i’n trigolion.”  

- Advertisement -
Previous articleNew Ysgol Heol Goffa go-ahead expected next week
Next articleLocal Councillors back new plans for Ysgol Heol Goffa 
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content