- Advertisement -
Home More News Health News Galwadau am gefnogaeth yn syth i bobl ifanc sy’n wynebu problemau iechyd...

Galwadau am gefnogaeth yn syth i bobl ifanc sy’n wynebu problemau iechyd meddwl

0
72
- Advertisement -

Yn ystod datganiad Busnes olaf tymor y Senedd, galwodd AoS y Canolbarth a’r Gorllewin, Helen Mary Jones am gefnogaeth yn syth i bobl ifanc sy’n wynebu problemau iechyd meddwl.

Dywedodd AoS Plaid Cymru Helen Mary Jones:

“Rwy’n galw am i gefnogaeth fod ar gael ar unwaith i bobl ifanc sy’n wynebu problemau iechyd meddwl, ac yr ydym oll yn gwybod fod y rhain wedi eu gwaethygu gan eu profiadau yn ystod argyfwng covid. Yr wythnos ddiwethaf, cefais gyfarfod gyda myfyrwyr o Ysgol y Strade yn Llanelli, ac un o’u prif bryderon oedd eu hiechyd meddwl a’u lles hwy a’u cyfoedion ifanc yn y dyfodol. Mae hyd yn oed Llywodraeth Cymru yn cydnabod fod gwir broblemau o ran mynediad at wasanaethau, gydag amseroedd aros hir iawn am rai gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

- Advertisement -

“Byddai Plaid Cymru mewn llywodraeth yn datblygu rhwydwaith cenedlaethol o ganolfannau iechyd meddwl a lles i bobl ifanc, ac fe fuaswn i’n gwneud popeth yn fy ngallu i sefydlu un o’r rheiny yn Llanelli.

“Yn y cyfamser, hoffwn glywed gan y Gweinidog dros iechyd meddwl am y gefnogaeth y gall hi roi yn y tymor byr i’r bobl ifanc hynny er mwyn mynd i’r afael â’r amseroedd aros hir iawn at fynediad at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS)  a bod yr agwedd a grybwyllodd y Gweinidog am ei fod yn fwy seiliedig ar y gymuned. Dylid defnyddio gwasanaethau fel rhai ieuenctid, yn hytrach na’u bod yn wasanaethau cyfan gwbl feddygol, er mwyn ymdrin â phryderon y bobl ifanc hynny o Ysgol y Strade ac o bob rhan o’n rhanbarth.”

- Advertisement -
Previous articleCalls For Immediate Support For Young People Facing Mental Health Problems
Next articleHywel Dda UHB Encourages People To Book Second Pfizer Vaccine Appointment

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content