- Advertisement -
Home Dyfed Powys Police Galwadau Ffôn SCAM

Galwadau Ffôn SCAM

0
37
- Advertisement -

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio’r cyhoedd ynghylch galwadau ffôn twyllodrus gan sgamwyr sy’n esgus eu bod o gwmni Amazon. Mae’n bosibl y bydd y galwadau hyn gan unigolyn neu wedi eu hawtomeiddio.

Yn ôl y Ditectif Gwnstabl Gareth Jordan mae Heddlu Dyfed Powys wedi sylwi ar gynnydd mawr mewn galwadau sgamio lle mae troseddwr yn ffonio’r dioddefydd ac yn esgus eu bod o gwmni Amazon.

- Advertisement -

Efallai bydd yr alwad yn nodi bod dyled o £79.97 – ond os nad ydynt yn dymuno adnewyddu, dylent ganslo Amazon drwy wasgu ‘1’.

Gall fod yn alwad sy’n nodi bod gwariant heb ei awdurdodi wedi bod ar y cyfrif (yn aml dros £1,000), ac eto, y cais fydd i chi wasgu ‘1’ er mwyn mynd drwyddo i’r ‘Adran Dwyll’.

Gydag unrhyw un o’r mathau hyn o alwadau, os gwasgir ‘1’, yna bydd y sgamwyr yn ceisio cael cymaint o fanylion personol â phosibl o’r dioddefydd, ac yna’n ceisio cael mynediad i’w manylion banc.

Yn anffodus, mae’r troseddwyr hyn yn fedrus iawn wrth deilwra cymdeithasol.

Mae nifer o bobl yn meddwl y bydd gan sgamwyr acen ‘dramor’, ond dydy hyn ddim bob amser yn wir.

Yn achos pob galwad o’r math hwn, y peth gorau yw rhoi’r ffôn i lawr, ac yna gwirio eich cyfrif arlein drwy ddefnyddio’r ap ar eich ffôn, neu wrth deipio’r cyfeiriad cywir https://orlo.uk/63te7 ac yna mewngofnodi i’ch cyfrif y ffordd hon a’i wirio.

Peidiwch â dilyn dolenni os yw’r troseddwr yn eu hanfon drwy negeseuon testun neu e-bost – bydd y rhain fel arfer yn mynd â chi at wefannau ffug sy’n edrych yn ddilys.

Mae pob croeso i chi rannu’r cyngor hwn er mwyn ceisio helpu atal y troseddwyr hyn rhag bod yn llwyddiannus.

The post Galwadau Ffôn SCAM first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleScam Phone Calls
Next articleWarning About COVID Vaccine Scammers
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content