- Advertisement -
Home More News Local News GALWADAU O’R NEWYDD AM DDEDDF AWYR LÂN I GYMRU I WELLA IECHYD...

GALWADAU O’R NEWYDD AM DDEDDF AWYR LÂN I GYMRU I WELLA IECHYD Y GENEDL

0
26
- Advertisement -

Cyflwynwyd datganiad o farn yn galw am Ddeddf Awyr Lân i Gymru gan yr Aelodau o’r Senedd Helen Mary Jones a Llyr Gruffydd i gyd-fynd â Diwrnod Awyr Lân (8 Hydref).

Meddai Joseph Carter, Cadeirydd Awyr Iach Cymru: ‘Rydym yn annog ASau ar draws y sbectrwm gwleidyddol i lofnodi’r Datganiad o Farn hwn i gefnogi Diwrnod Awyr Lân. Mae llygredd aer yn fygythiad cyhoeddus ac amgylcheddol o bwys ac y mae’n costio rhyw £1 biliwn i Gymru. Mae Cynllun Awyr Lân diweddar Llywodraeth Cymru yn gam cyntaf o bwys i fynd i’r afael â’r heriau a wynebwn, ond mae arnom angen Deddf Awyr Lân i osod targedau llygredd newydd ac amddiffyn bywydau.’

- Advertisement -

Dywedodd AS Plaid Cymru dros y Canolbarth a’r Gorllewin Helen Mary Jones, Gweinidog cysgodol dros yr Economi, Trafnidiaeth a Thaclo Tlodi: “Rydym oll wedi sylwi ar y gwelliant yn ansawdd yr aer diolch i’r cloi oherwydd Coronafeirws. Mae arnom angen gwneud yn siŵr, wrth i ni ail-adeiladu ein heconomi, nad ydym yn anghofio pwysigrwydd awyr lân a’n hamgylchedd.”

Ychwanegodd AS Gogledd Cymru Llyr Gruffydd, Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

“Mae llygredd aer yn achosi 1,400 o farwolaethau yn ychwanegol gyda phob blwyddyn a aiff heibio, ac fel gyda’r argyfwng hinsawdd, allwn ni ddim aros yn hwy, mae arnom angen gweithredu ar frys i lanhau ein hawyr fudr. Byddai Llywodraeth Cymru dan Blaid Cymru yn sicrhau fod gan unrhyw gynllun at y dyfodol rym deddfwriaethol; mae angen rhoi’r gorau i fod yn chwit-chwat a newid Cymru am byth.”

The post GALWADAU O’R NEWYDD AM DDEDDF AWYR LÂN I GYMRU I WELLA IECHYD Y GENEDL first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleRENEWED CALLS FOR WELSH CLEAN AIR ACT TO IMPROVE NATION’S HEALTH
Next articleRenewed Calls For Welsh Clean Air Act To Improve Nation’s Health
Helen Mary Jones
Helen Mary Jones is part of Plaid Cymru and a Member of Senedd for Mid and West Wales.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content