- Advertisement -
Home More News Gorymdaith Achub ein Scarlets

Gorymdaith Achub ein Scarlets

0
21
- Advertisement -

Ar ddydd Sadwrn 27 Medi 2025, bydd cefnogwyr y Scarlets yn cerdded o hen bostiau rygbi Parc y Strade i Barc y Scarlets, cyn gêm gyntaf y tymor cartref yn erbyn Munster.
Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 1.00yh o Sandy Water Park yn Llanelli, a bydd yn dechrau gyda neges bersonol gan fewnwr chwedlonol Llanelli a’r Scarlets, Rupert Moon.

O’r fan honno, bydd yr orymdaith yn symyd drwy ganol y dref, gan barhau heibio Farmfoods, tuag at Halfway a gorffen ym Mharc y Scarlets.

Mae’r orymdaith wedi’i threfnu yn erbyn cefndir ymgynghoriad Undeb Rygbi Cymru ar ddyfodol y gêm yng Nghymru, gyda phob un o bedwar rhanbarth Cymru yn wynebu bygythiad dirfodol.

- Advertisement -

Dywedodd un o drefnwyr yr orymdaith, Helen Davies:

Mae hwn yn gyfle gwych i gefnogwyr y Scarlets ddod a dangos faint mae’r clwb yn ei olygu iddyn nhw, ac rydym yn disgwyl i nifer fawr o bobl ledled y rhanbarth, nid ond Llanelli. Y neges i gefnogwyr yw i wisgo eu lliwiau, dod â’u baneri, a throi fyny yn ein niferoedd i ddangos i Undeb Rygbi Cymru beth mae’r clwb gwych hwn yn ei olygu i ni.”

Dywedodd un arall o drefnwyr yr orymdaith, Andrew Gough:

O’r pedwar rhanbarth, y Scarlets yw’r unig un sydd â diwylliant a’r iaith Gymreig yn flaenllaw yn ei hunaniaeth, o’r nifer y cefnogwyr sy’n siarad Cymraeg i nifer y caneuon Cymraeg a glywir ar y terasau ar ddiwrnodau gemau. Mae’n hanfodol bwysig bod hyn yn cael ei ddiogelu yn nyfodol rygbi Cymru.”

Dywedodd un arall o drefnwyr yr orymdaith, Catherine Davies:

Mae rygbi yn golygu mwy i’r cefnogwyr na data crai, rhywbeth nad wyf yn credu bod Undeb Rygbi Cymru wedi’i ddeall yn eu ymgynghoriad. Ar ddiwedd y dydd, beth yw pwynt chwaraeon heb gefnogwyr? Gobeithio bydd Undeb Rygbi Cymru yn gweld yr ymateb gan y cefnogwyr ac yn dechrau deall faint mae’r clybiau a’r hunaniaethau’n ei olygu i’r bobl a’u cymunedau.”

Cynghorir gyrwyr y bydd aflonyddwch ar hyd llwybr yr orymdaith, ac i gynllunio eu teithiau’n ofalus er mwyn osgoi’r orymdaith.

- Advertisement -
Previous articleSave Our Scarlets March
Next article‘Scrap the two-child limit to tackle child poverty – we’ve said it all along’

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content