- Advertisement -
Home More News Local News Gwasanaeth Gwaed Cymru yn galw ar fyfyrwyr i gofrestru ar gyfer yr...

Gwasanaeth Gwaed Cymru yn galw ar fyfyrwyr i gofrestru ar gyfer yr ymgyrch ‘Prifysgol Achubwyr Bywydau’

0
21
- Advertisement -

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn galw ar y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr prifysgol, staff a’u cymunedau lleol yng Nghymru i ddod yn rhoddwyr gwaed yn sgil lansio ymgyrch newydd. 

Mae’r ymgyrch ‘Prifysgol Achubwyr Bywydau’ yn galw ar fyfyrwyr a staff prifysgol i ddod yn rhoddwyr gwaed ac ymuno â chofrestr bôn-gelloedd Gwasanaeth Gwaed Cymru, yn ogystal â galw ar brifysgolion ar draws Cymru i chwarae rhan allweddol wrth geisio denu eu myfyrwyr a’u staff ar draws campysau i gymryd rhan yn yr ymgyrch.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn casglu tua 100,000 o roddion gwaed bob blwyddyn i ateb y galw ar draws y 19 ysbyty y mae’n eu gwasanaethu yng Nghymru. Fodd bynnag, dim ond 3% o’r boblogaeth gymwys yng Nghymru sy’n rhoi gwaed ar hyn o bryd, ac mae llai na 15% o’r rheini o dan 30 oed. Mae’n hanfodol bod mwy o bobl ifanc yn dechrau ar eu taith rhoi gwaed er mwyn sicrhau y gall y Gwasanaeth barhau i ateb y galw. 

- Advertisement -

Mae gan bob rhodd y potensial i achub hyd at dri bywyd trwy gefnogi amrywiaeth o driniaethau, o helpu dioddefwyr damweiniau sy’n gwella a chleifion â chanser y gwaed, i gefnogi mamau a babanod newydd-anedig yn ystod genedigaeth. 

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru eisoes wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ar draws Cymru ers nifer o flynyddoedd sydd wedi arwain at bron i 3,400 o roddion, gyda llawer yn cynnal eu sesiynau rhoi gwaed eu hunain i fyfyrwyr a staff, yn hyrwyddo sesiynau cymunedol lleol, neu’n cynnal ymgyrchoedd swabio bôn-gelloedd. 

Nod yr ymgyrch Prifysgol Achubwyr Bywydau ydy adeiladu ar y perthnasoedd cryfion hyn, drwy alw ar bob prifysgol ar draws Cymru i gefnogi recriwtio gwirfoddolwyr rhoi gwaed a bôn-gelloedd.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru hefyd yn anelu at recriwtio mwy na 6,000 o bobl rhwng 16 a 30 oed a rhwng 16 a 45 oed o gefndiroedd du, Asiaidd, cymysg neu ethnig leiafrifol i’w cofrestr bôn-gelloedd bob blwyddyn. Ar hyn o bryd, mae angen trawsblaniad bôn-gelloedd ar oddeutu 2,000 o bobl yn y DU bob blwyddyn. Ni fydd tri o bob deg claf yn dod o hyd i rywun sy’n paru â nhw, ac mae hynny’n codi i saith o bob deg ar gyfer claf o gefndir du, Asiaidd, cymysg neu ethnig leiafrifol. 

Mae Prifysgol Abertawe wedi cynnal sesiynau rhoi gwaed ar ei Champysau yn y Bae ac yn Singleton ers 2019, sydd wedi arwain at bron i 3,000 o roddion gan fyfyrwyr, staff ac aelodau o’r cyhoedd sydd o bosib, wedi achub bron i 9,000 o fywydau. 

Dywedodd Bleddyn Carter, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: “Yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, rydym yn falch o gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru a’r gwaith achub bywydau maen nhw’n ei wneud ar draws Cymru. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd bob blwyddyn i gynnal sesiynau rhoi gwaed ar y campws, i annog ein myfyrwyr a’n staff i roi gwaed, ac i hyrwyddo’r pwysigrwydd o roi gwaed. 

“Mae ein partneriaeth wedi ymestyn i ddigwyddiadau fel ymgyrch mêr esgyrn Varsity Cymru, lle mae ein cymuned o fyfyrwyr yn dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym yn gwerthfawrogi’r berthynas barhaus hon, ac wedi ymrwymo i barhau i ddarparu cefnogaeth i’r ymgyrch Prifysgol Achubwyr Bywydau i helpu i achub bywydau.”

Mae Prifysgol Bangor yn Brifysgol arall sydd wedi bod yn cefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru ers amser maith, ar ôl cynnal ei sesiwn rhoi gwaed gyntaf yn 2018. Ers hynny, mae 1,200 o roddion wedi cael eu rhoi ar y campws, sydd wedi achub hyd at 3,600 o fywydau. 

O ganlyniad i’r sesiynau hynny, ymunodd y myfyriwr meddygol Ben Morgan â Gwasanaeth Gwaed Cymru fel llysgennad. 

Meddai Ben: “Mae bod yn llysgennad gwaed i Brifysgol Bangor yn fraint fawr, ac yn brofiad gwerth chweil. Fel myfyriwr meddygol, rwy’n gweld o lygaid y ffynnon pa mor hanfodol yw rhoi gwaed. Mae bod yn llysgennad yn golygu fy mod i’n cael chwarae rhan weithredol yn y gymuned myfyrwyr a’r gymuned leol, drwy godi ymwybyddiaeth ynghylch y pwysigrwydd o roi gwaed, a chofrestru ar gyfer cofrestr bôn-gelloedd Gwasanaeth Gwaed Cymru.  

“Byddaf yn sicr yn cofrestru ar gyfer yr ymgyrch Prifysgol Achubwyr Bywydau, ac yn annog fy nghyd-fyfyrwyr i wneud yr un peth.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser: “Rydym yn wynebu rhaniad rhwng cenedlaethau o ran rhoi gwaed, sy’n cyflwyno heriau sylweddol wrth i ni edrych tua’r dyfodol. 

“Mae angen i fwy o bobl ifanc ddod yn rhoddwyr gwaed ac ymuno â’n cofrestr bôn-gelloedd, er mwyn sicrhau y gallwn fodloni’r galw ac achub bywydau am genedlaethau i ddod. 

“Mae prifysgolion mewn sefyllfa unigryw i’n helpu i ddenu myfyrwyr o bob rhan o’r wlad. Rydym yn falch dros ben o’r bywydau sydd wedi cael eu hachub trwy ein cysylltiadau presennol â phrifysgolion, ond mae mwy i’w wneud.”   

I ddarganfod sut y gall eich ysgol neu goleg gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru, ewch i’r dudalen prifysgol Achubwyr Bywydau (www.wbs.wales/UniversityOfLifesavers) am ragor o wybodaeth ac adnoddau, neu anfonwch e-bost at: wbs.communitypartnership@wales.nhs.uk

- Advertisement -
Previous articleWelsh Blood Service calls for students to enrol at the ‘University of Lifesavers’
Next articleReport highlights successes of counter-fraud work in 2024-25
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content