Mae Plaid Cymru wedi beirniadu strategaeth recriwtio athrawon uwchradd Llywodraeth Cymru wrth iddi ddod i’r amlwg mai dim ond 335 o fyfyrwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) basiodd eu cymhwyster yn y flwyddyn 2024/25, o’i gymharu â tharged y llywodraeth o 1,056.
Fel datrysiad i’r hyn mae’n nhw’n galw’n “argyfwng recriwtio”, mae’r Blaid wedi cynnig cyfuno a symleiddio’r system ariannu sydd ar gael i ddarpar athrawon a chynyddu’r swm ar gael iddyn nhw i £30,000 ar gyfer pynciau blaenoriaeth.
Yn ystod sesiwn graffu yn y Senedd ar waith Lynne Neagle, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, heddiw (dydd Mercher, 12 Tachwedd) cyfeiriodd Cefin Campbell, llefarydd addysg y Blaid, at heriau’r system dameidiog sy’n bodoli ar hyn o bryd:
“Mae’n amlwg nad ydych chi fel llywodraeth wedi llwyddo i ddatrys yr argyfwng recriwtio sy’n wynebu’r sector addysgu yng Nghymru.
“Fe allwch chi ddweud fod hyd at £25,000 i gael ar gyfer darpar athrawon yng Nghymru drwy’r tri chynllun cymhelliant gwahanol, sef pynciau blaenoriaeth, addysgu drwy Gymraeg, a bod o gefndir BME, ond y gwir amdani yw, doedd yna ddim un myfyriwr wedi dilyn y tri chynllun yna gyda’i gilydd y llynedd.
“Felly, o ystyried hyn, a’n bod yn dal i weld niferoedd syfrdanol o isel mewn pynciau allweddol, allwch chi o leiaf gyfaddef fod y cynlluniau cymhelliant presennol yn methu, a bod angen eu diwygio nhw ar frys?”














