- Advertisement -
Home More News Newyddion Lle ‘Mae pobl Cymru wedi anfon neges glir i San Steffan – ni...

‘Mae pobl Cymru wedi anfon neges glir i San Steffan – ni allwch anwybyddu ein lleisiau mwyach’ – Plaid Cymru

0
15
- Advertisement -

Plaid Cymru i wthio am Fesur Cymru newydd a galw am ragor o bwerau

Heddiw (dydd Llun 18 Mai) mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i Araith y Brenin yn galw am Fesur Cymru newydd. Mae’r gwelliant yn nodi galwadau am bwerau cryfach, gan gynnwys datganoli isadeiledd rheilffyrdd, Ystâd y Goron, cyfiawnder a phlismona, dŵr a nawdd cymdeithasol i Gymru.

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddisodli Fformiwla Barnett gyda setliad sy’n adlewyrchu anghenion Cymru ac i roi terfyn ar y tan-ariannu gan Lywodraeth y DU o feysydd heb eu datganoli. Yn ogystal â hyn, maent wedi galw am gynyddu capasiti benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru.

- Advertisement -

Dywedodd Liz Saville Roberts AS, arweinydd y blaid yn San Steffan, y gall pobl Cymru weld nad ydyn nhw’n cael ‘triniaeth deg’ gan San Steffan a bod bellach gan ei phlaid fandad clir i ymladd dros y pwerau hyn. 

Roedd Llafur wedi dominyddu yng Nghymru ers 100 mlynedd, ond daeth Plaid Cymru â hynny i ben ar 7 Mai drwy ddod y blaid fwyaf. Yr wythnos diwethaf, etholwyd Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog a chyhoeddodd gabinet ei Lywodraeth. 

Ddydd Iau (14 Mai) cafodd Rhun ap Iorwerth a Keir Starmer eu galwad gyntaf. Cadarnhaodd Prif Weinidog y DU y byddai’n agored i sgwrs ar bwerau sy’n ymwneud â datganoli ar ôl i Brif Weinidog Cymru egluro ei fod yn dymuno negodi ar fformiwla Barnett, cyllid teg, pwerau benthyca, rheilffyrdd a datganoli pellach.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts:

“Mae canlyniad etholiad y Senedd yn cynrychioli rhywbeth llawer mwy na’r ffaith fod pobl Cymru wedu gwrthod status quo aflwyddiannus Llafur ac ymdrechion Reform i rannu ein cymunedau gydag ofn. Mae’r twf mewn cefnogaeth i Blaid Cymru ym mhob rhanbarth o Gymru yn dangos newid sylfaenol yng ngobaith a dyheadau pobl ar gyfer ein cenedl. Nid dyma’r gorau y gall pethau fod i Gymru, ac mae Plaid Cymru wedi dangos hynny gyda’n cynlluniau uchelgeisiol a chredadwy ar gyfer llywodraeth. 

“Gall pobl hefyd weld nad yw Cymru’n cael y driniaeth deg yr ydym yn ei haeddu. O anghyfiawnder HS2 i’r cyfoeth o’n hadnoddau naturiol yn cael ei anfon i San Steffan, i’r tan-ariannu cronig o wasanaethau allweddol. Dyna pam y gwnaethon nhw bleidleisio dros Blaid Cymru, ac mae gennym fandad clir nawr i ymladd dros y pwerau hyn.

“Roedd yn siomedig bod Araith y Brenin wedi methu ag adlewyrchu awydd pobl Cymru am newid go iawn. Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i Araith y Brenin yn galw am Fesur Cymru newydd lle byddwn yn nodi pam a sut mae pwerau cryfach a chyllid teg i’n cenedl yn angenrheidiol i sicrhau’r newid sydd ei angen ar Gymru.

“Os yw Keir Starmer o ddifrif ynglŷn â bod yn ‘agored’ i drafod mwy o bwerau i Gymru, yna dylai ei Lywodraeth wrando ar ein gofynion am Fesur Cymru newydd. Mae pobl Cymru wedi anfon neges glir i San Steffan – ni allwch anwybyddu ein lleisiau mwyach.”

- Advertisement -
Previous article‘The people of Wales have sent Westminster a clear message – you cannot ignore our voices any longer’ – Plaid Cymru
Next articleFirst Minister outlines priorities for Welsh Government
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content