- Advertisement -
Home More News Local News Mae’n amser eto ar gyfer Brechiadau Ffliw Trwynol yn yr ysgol

Mae’n amser eto ar gyfer Brechiadau Ffliw Trwynol yn yr ysgol

0
60
- Advertisement -

Mae Tîm Nyrsio Ysgol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i rieni plant ysgol yn y dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11 ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wirio bag ysgol eu plentyn am ffurflen caniatâd brechlyn ffliw trwynol eleni a’i dychwelyd i’r ysgol erbyn 17 Medi.

Gall y ffliw fod yn annymunol iawn i blant ac weithiau arwain at gymhlethdodau difrifol fel niwmonia a broncitis. Mae’r brechlyn ffliw trwynol blynyddol am ddim yn ffordd gyflym a di-boen i amddiffyn eich plentyn rhag y firws. Mae hefyd yn helpu i leihau’r siawns y bydd plant yn lledaenu ffliw i eraill sydd â risg uchel o’r ffliw, fel babanod ifanc, neiniau a theidiau, a’r rhai a chyflyrau iechyd tymor hir.

- Advertisement -

Dywed Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, yn BIP Hywel Dda: “Bob blwyddyn, mae ein tîm nyrsio ysgolion yn gweithio’n ddiwyd i sicrhau bob pob plentyn ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael cynnig y brechlyn ffliw trwynol i’w amddiffyn nhw a’u teuluoedd.

“Eleni, mae cymhwysedd y brechlyn ffliw trwynol wedi’i ymestyn ac yn cael ei gynnig i blant o’r dderbynfa hyd at flwyddyn 11. Rwy’n annog rhieni i fanteisiwch ar y cyfle hwn ac anfon eu ffurflenni caniatâd  mewn pryd i helpu i gadw eich plant a Hywel Dda’n ddiogel.”

I gael mwy o wybodaeth am y brechiad ffliw ymwelwch Imiwneiddio a Brechlynnau – Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

The post Mae’n amser eto ar gyfer Brechiadau Ffliw Trwynol yn yr ysgol first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleTime again for nasal flu vaccinations at school
Next articleTime Again For Nasal Flu Vaccinations At School
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content