- Advertisement -
Home More News Local News Mynediad at ofal wedi’i drefnu ac mewn argyfwng yn ystod y cyfnod...

Mynediad at ofal wedi’i drefnu ac mewn argyfwng yn ystod y cyfnod clo byr ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda

0
120
- Advertisement -

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am ddarparu eglurhad am yr hyn y mae cyfyngiadau’r cyfnod clo byr yn ei olygu i breswylwyr sy’n cyrchu apwyntiadau ysbyty neu ofal brys yn ystod yr amser hwn.

Bydd apwyntiadau cleifion allanol ysbytai a llawdriniaethau wedi’u cynllunio yn parhau fel y trefnwyd. Os oes gennych apwyntiad ysbyty neu lawdriniaeth wedi’i gadarnhau, dilynwch yr un drefn cyn belled nad oes gennych symptomau COVID.

- Advertisement -

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch mynychu eich apwyntiad, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r rhif ar eich llythyr apwyntiad.

Bydd menywod yn parhau i allu dod â’u partner neu rywun arall a enwebwyd i’w cefnogi pan fyddant yn cael eu sgan anomaledd a drefnwyd (sgan 20 wythnos) ac yn ystod esgor gweithredol.

Mewn argyfwng, os oes gennych anghenion gofal brys na all aros ond NID ydynt yn argyfyngau 999, defnyddiwch y gwiriwr symptomau ar-lein https://111.wales.nhs.uk/SelfAssessments/ neu deialwch 111 ar gyfer GIG  Cymru ar gyfer cyngor iechyd a chefnogaeth. Mae’r rhif yn rhad ac am ddim ac ar gael 24/7.

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Hywel Dda, “Rydyn ni’n gwybod bod COVID-19 yn effeithio ar bobl, gwasanaethau a busnesau mewn sawl ffordd ac mae’r ffordd y mae’n parhau i herio ein dealltwriaeth o fywyd bob dydd yn teimlo’n anodd iawn i bawb ohonom ar hyn o bryd.

“Os gallwn ni i gyd ddilyn y cyfyngiadau sy’n dechrau am 6pm ddydd Gwener – aros gartref pryd bynnag y bo modd a pheidio â chymysgu â phobl y tu allan i’n cartref – gallwn amddiffyn mwy o bobl rhag y firws.

“Wrth i achosion gynyddu yn ein cymuned Hywel Dda rydym yn gweld cleifion â COVID yn cael eu derbyn i’n hysbytai hefyd. Er bod y niferoedd yn parhau i fod yn gymharol fach, maent wedi cynyddu dros y 2 – 3 wythnos ddiwethaf sy’n arwydd y byddwn yn gweld mwy yn y dyddiau a’r wythnosau i ddod.

“Mae’r hyn rydyn ni i gyd yn ei wneud nawr yn helpu i atal y lledaeniad ac mae hyn yn helpu’r GIG yn uniongyrchol fel y gall fod yma i chi o hyd pan fydd ei angen arnoch chi.”

Mae’r sefyllfa’n golygu ei bod yn parhau i fod yn angenrheidiol i ni gael ymweliad cyfyngedig iawn â’n hysbytai, er mwyn sicrhau diogelwch ymwelwyr a staff.Bydd ymwelwyr yn parhau i gael eu lletya trwy gytundeb rheolwr y ward ar gyfer yr achosion a ganlyn:

• Un rhiant / gwarcheidwad ar y tro ar gyfer plant a babanod.

• Mam eni – un partner.

• Cleifion ag anawsterau dysgu neu anghenion iechyd meddwl – un ymwelydd i ddarparu cefnogaeth trwy drefniant.

• Cleifion sy’n derbyn gofal diwedd oes neu neu sydd angen gofal lliniarol – i’w trefnu trwy’r nyrs â gofal.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â dod i’r ysbyty ar yr adeg hon, ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/cadwn-ddiogel-tra-yn-yr-ysbyty

The post Mynediad at ofal wedi’i drefnu ac mewn argyfwng yn ystod y cyfnod clo byr ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleHalloween & Bonfire Night Safety
Next articleAccessing planned and emergency care in Hywel Dda UHB during the circuit breaker

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content