Neges frys gan y Pennaeth Medi 18 2020
Neges bwysig i holl rieni/gwarcheidwaid dysgwyr U2 (ail flwyddyn Safon Uwch)
Annwyl Riant / Warcheidwad,
Yn hwyr iawn neithiwr, rhoddwyd gwybod i’r Coleg bod unigolyn sy’n astudio ar yr ail flwyddyn o Safon Uwch (U2) yn ein Coleg wedi profi’n bositif am COVID-19. Hoffem eich sicrhau nad oes achos i bryderu’n syth a byddwn yn rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl i chi.
Rydym yn gweithio’n agos â Chyngor Sir Caerfyrddin a gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) GIG Cymru ac yn dilyn yr holl gyngor ac arweiniad o roddir i ni.
Yn hwyr neithiwr, gwnaethom ofyn i’r holl ddysgwyr U2 drosglwyddo i ddysgu ar-lein heddiw fel rhagofal. Mae’r Tîm TTP yn cysylltu â myfyrwyr unigol ac aelodau staff i gadarnhau p’un a oes angen cyfnod o hunanynysu am 14 diwrnod.
Mae’r broses hon o brofi ac olrhain cysylltiadau yn rhan o’r ‘normal newydd’ a lle mae Colegau yn dilyn y canllawiau hyn yn ofalus, nid oes rheswm dros ddychryn.
O ran yr wythnos nesaf (w/c 21ain Medi 2020), bydd dysgwyr U2 yn parhau i dderbyn gwersi ar-lein fel y cynlluniwyd.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa os ydych chi, eich mab neu eich merch neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw, yn dechrau dangos y symptomau canlynol, rhaid i chi i gyd aros gartref a dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Peswch parhaus newydd a/neu
- Tymheredd uchel
- Colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Os bydd eich mab neu ferch yn mynd yn sâl y tu allan i oriau’r Coleg, gyda neu heb unrhyw un o symptomau COVID-19 neu mae angen iddo/iddi hunanynysu, rhowch wybod i ni am hyn drwy alw Delta Wellbeing ar 0300 333 2222 neu drwy anfon e-bost i TTP@deltawellbeing.org.uk a fydd yn hysbysu’r Coleg ar eich rhan.
Yn ystod oriau’r Coleg, ac ar gyfer yr holl faterion eraill sy’n ymwneud ag iechyd, rhowch wybod i’r Coleg yn uniongyrchol.
Os ydych chi, neu eich mab neu eich merch, yn teimlo’n sâl ac mae angen cyngor meddygol arnoch chi, ffoniwch NHS 111 neu ewch i’w gwefan 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch eich meddyg teulu lleol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.
Gobeithiwn fod y wybodaeth rydym wedi’i darparu yn tawelu’r meddwl ac yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod y gwerthfawrogwn sy’n gallu bod yn bryderus iawn. Fel bob amser, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth barhaus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
















