- Advertisement -
Home Events Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr

Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr

0
39
- Advertisement -

Gŵyl Canol Dre:

Bydd ein gŵyl Gymraeg, Gŵyl Canol Dre yn ôl eleni eto! Cynhelir yr ŵyl ym Mharc Myrddin ar y 6ed o Orffennaf! Gweithdai, adloniant, stondinau, gweithgareddau a llawer mwy – rhywbeth at ddant pawb! Edrychwn ymlaen i’ch gweld chi yno!

Staff Newydd:

- Advertisement -

Croeso i Mari Phillips sydd wedi’i phenodi fel Swyddog Datblygu Caerfyrddin a’r Cyffiniau yn ystod cyfnod mamolaeth. Rydym ni’n gyffrous iawn i gael Mari’n aelod o’r tîm ac yn dymuno’n dda i Betsan Lewis wrth iddi ddechrau ei chyfnod mamolaeth.

Adweitheg Babi:

Bydd cyfres arall o sesiynau Adweitheg Babi’n dechrau ar y 1af o Fai. Bydd 4 sesiwn o 10yb tan 11.30yb yn cael eu cynnal yn Neuadd Gymunedol Ysgol Peniel. Bydd y sesiynau’n costio £35 am 4 sesiwn. I gofrestru cysylltwch ar betsan@mgsg.cymru.

Sesiwn Stori’r Amgueddfa Wlân:

Cynhelir Sesiwn Stori fisol yn yr Amgueddfa Wlân yn Nrefach Felindre. Bydd y sesiwn yn dechrau am 1.30 yp. Nodwch y dyddiadau a dewch i ymuno gyda ni ar: 16.5.2024; 20.6.2024; 18.7.2024; 19.9.2024; 17.10.2024; 21.11.2024. Bydd cyfle i bawb fwynhau stori, cyd-ganu a chymdeithasu.

Gŵyl Fach Newy’:

Eleni, cynhelir Gŵyl Fach Newy’ ar ddydd Sadwrn yr 8fed o Fehefin ym Mharc Castell Newydd Emlyn. Bydd yr ŵyl o 11 yb tan 2 yp. Bydd gweithgareddau yng ngofal OT Coaching a nifer o fudiadau eraill a fydd yn bresennol ar y dydd. Hefyd bydd stondinau amrywiol a llawer mwy. Rhywbeth at ddant pawb!

Y Cwis Mawr:

Ydych chi’n mwynhau cwis? Cynhelir Y Cwis Mawr yn Y Sgwâr, Castell Newydd Emlyn am 7.30 yh ar nos Iau’r 13eg o Fehefin. Mae croeso cynnes i ddysgwyr a siaradwyr rhugl i greu timau i gystadlu ar y noson. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ar nia@mgsg.cymru.

Ras Bryndioddef:

Mae Ras Bryndioddef yn ôl! Bydd cyfle i blant ac oedolion redeg yr holl ffordd i ben Rhiw Bryndioddef ac yn ôl ar nos Fawrth 18fed Mehefin. Rhowch eich esgidiau rhedeg ymlaen a dewch i Glwb Rygbi Castell Newydd Emlyn. Bydd y rasys yn cael eu cynnal rhwng 5 a 8.30 yh. Mwy o fanylion i ddilyn am drefn y rasys. Cadwch lygad!

Gweithgareddau’r Pasg:

Cafwyd bore hyfryd yn yr Atom yng Nghaerfyrddin gyda gweithgaredd ‘Hwyl y Pasg’. Hyfryd oedd cael cydweithio gyda’r Atom a Chylch Meithrin Myrddin. Cafwyd cyfle i fwynhau Sesiwn Stori a Chân, Chwarae Anniben a Chrefftau. Bu dros 30 o deuluoedd yn rhan o’r weithgaredd lle roedd digon o chwerthin a mwynhad.

Yn ogystal, trefnwyd helfeydd wyau Pasg yn Sanclêr a Chastell Newydd Emlyn. Diolch i’r siopau yn y ddwy dref am gefnogi, i’r Premier yng Nghastell Newydd Emlyn am noddi’r gwobrau ac i’r holl deuluoedd fu’n cymryd rhan yn yr helfeydd.

Sesiynau stori:

Mae ein sesiynau stori yng Nghaerfyrddin ac yn ardal Dyffryn Taf yn parhau bob pythefnos. Ymunwch â ni yn y sesiynau stori yma. Cysylltwch gyda gwyneth@mgsg.cymru i gofrestru neu am wybodaeth pellach.

Clybiau Drama:

Mae’r Fenter, Theatr Genedlaethol Cymru a’r Egin yn cynnig dau glwb drama i blant yr ardal, Clwb Joio Drama ar gyfer blynyddoedd 1-3 ar nos Fercher o 5-5.45pm ac i flynyddoedd 4-6 o 6-7pm. Mae’r clybiau yn cael eu cynnal yn Yr Egin, Caerfyrddin. Cyfle i blant ddysgu sgiliau, magu hyder a mwynhau. I gofrestru, cysylltwch gyda betsan@mgsg.cymru.

Siaradwyr Newydd:

Dewch i ymuno gyda’n sesiynau siarad ni! Mae croeso i siaradwyr newydd a rhugl ymhob un.

Mae Coffi a Chlonc yn gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd hon yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gydag ymholiad@mgsg.cymru  

Mae’r Fenter yn cyd-drefnu sesiynau Paned a Sgwrs yng Nghaffi’r Atom, bob dydd Mawrth o 10-11yb. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned.

Cynhelir sesiynau Paned a Phapur yn yr Amgueddfa Wlân, Drefach Felindre ar ddydd Mercher bob pythefnos. Ac mae sesiynau Shwmae a Siarad yn cael eu cynnal unwaith y mis ar fore Gwener yng Nghaffi Cwtch Coffi, yr hen glwb pêl-droed, Castell Newydd Emlyn rhwng 10:30-11:30. Edrych ymlaen i’ch gweld yno.

Am unrhyw wybodaeth am ein sesiynau, cysylltwch gydag ymholiad@mgsg.cymru.

Cyfryngau Cymdeithasol:

Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

X (Trydar) – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ymholiad@mgsg.cymru  neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch â ni ar y ffôn: 01239 712934.

- Advertisement -
Previous articleIt Is Time To Put Public Health First
Next articleMenter Gorllewin Sir Gâr News

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content