
Siaradwyr Newydd:
Adduned blwyddyn newydd i siarad mwy o Gymraeg neu i fynd allan i gymdeithasu? Dewch i ymuno gyda’n sesiynau siarad ni! Mae croeso i siaradwyr newydd a rhugl ymhob un.
Mae Coffi a Chlonc yn gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd hon yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gydag ymholiad@mgsg.cymru
Mae’r Fenter yn cyd-drefnu sesiynau Paned a Sgwrs yng Nghaffi’r Atom, bob dydd Mawrth o 10-11yb. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned.
Cynhelir sesiynau Paned a Phapur yn yr Amgueddfa Wlân, Drefach Felindre ar ddydd Mercher bob pythefnos. Ac mae sesiynau Shwmae a Siarad yn cael eu cynnal unwaith y mis ar fore Gwener yng Nghaffi Cwtch Coffi, yr hen glwb pêl-droed, Castell Newydd Emlyn rhwng 10:30-11:30. Edrych ymlaen i’ch gweld yno.
Am unrhyw wybodaeth am ein sesiynau, cysylltwch gydag ymholiad@mgsg.cymru
Sesiynau stori:
Mae ein sesiynau stori yng Nghaerfyrddin ac yn San Clêr yn parhau bob pythefnos. Yng Nghaerfyrddin ar ddydd Llun yn Llyfrgell Caerfyrddin am 10:30am ac yn Llyfrgell San Clêr, Y Gât am 1:30pm ar ddydd Iau. Ymunwch â ni yn y sesiynau stori yma. Cysylltwch gyda gwyneth@mgsg.cymru i gofrestru neu am wybodaeth pellach.
Clybiau Drama:
Mae’r Fenter a Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig dau glwb drama i blant yr ardal, Clwb Joio Drama ar gyfer blynyddoedd 1-3 ar nos Fercher o 5-5.45pm ac i flynyddoedd 4-6 o 6-7pm. Mae’r clybiau yn cael eu cynnal yn y Stiwdio, Theatr y Lyric, Caerfyrddin. Cyfle i blant ddysgu sgiliau, magu hyder a mwynhau. I gofrestru, cysylltwch gyda betsan@mgsg.cymru Diolch i Theatrau Sir Gâr am y croeso cynnes i’r theatr yn wythnosol.
Gwirfoddoli:
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae criw o bobl ifanc yr ardal wedi bod yn gwirfoddoli yn nigwyddiadau’r Fenter, megis clybiau drama, Gŵyl Canol Dre, Gŵyl Fach Newy’, Ras Fach y Wiber a sesiynau amrywiol eraill ac mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn ddiolchgar iawn am eu gwaith a’u hamser.
Mae’r profiad o wirfoddoli’n lleol yn fwy na rhoi rhywbeth nôl i’r gymuned, ond hefyd yn gyfle i fagu hyder, datblygu sgiliau trosglwyddiadau cyffredinol yn ogystal â sgiliau byd gwaith. Mae cyfleoedd gwirfoddoli’r Fenter yn seiliedig ar gyfranogiad sy’n dangos arfer gorau a chynnig cyfle i gymryd cyfrifoldeb ac i wneud penderfyniadau. Mae’r Fenter yn bendant yn gwerthfawrogi gwaith ein gwirfoddolwyr ac yn gweld eu gwerth yn wythnosol. Os oes diddordeb gyda chi mewn gwirfoddoli gyda’r Fenter, cysylltwch gyda ni ar 01239 712934 / ymholiad@mgsg.cymru
Gig Bwncath, Dros Dro a Gelert:
Nos Wener 2il Chwefror 2024 cynhelir gig yn Undeb Myfyrwyr PCYDDS, Caerfyrddin. Bydd y gig yn gyfle i ni ddathlu Dydd Miwsig Cymru mewn steil! Bydd y gig yn gyfle i glywed Gelert, band ifanc o Sir Benfro; Dros Dro, band ifanc gyda’r aelodau’n ddisgyblion neu’n gyn-ddisgyblion o Fro Myrddin a Maes y Gwendraeth ac wrth gwrs, y band enwog a phoblogaidd, Bwncath. Bydd yn addas ar gyfer unigolion 16+ ac yn dechrau am 8 yh. Tocynnau cynnar yn £12 ac £15 wrth y drws. Gellir prynu tocynnau o flaen llaw trwy ddefnyddio’r ddolen https://www.surveymonkey.com/r/GIGChwe23
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ar betsan@mgsg.cymru
Holiadur Profi i bobl ifanc:
Mae ein prosiect Profi’n mynd o nerth i nerth. Prosiect sy’n helpu pobl ifanc gyda sgiliau byd gwaith ydyw. Gellir gweld adnoddau Profi a chyfres o ffilmiau a phodlediadau defnyddiol trwy gofrestru ar wefan www.profi.cymru
Er mwyn cael cyfle i ennill podiau clust ac er mwyn cael dweud dy farn, os wyt ti rhwng 14 a 35, gellir llenwi holiadur trwy ddilyn y ddolen yma: https://www.surveymonkey.com/r/Profidylais
Stori, Symud a Chwarae Anniben:
Fel rhan o ddathliadau Gŵyl y Daffodil yng Nghaerfyrddin bydd y Fenter, Yr Atom a Cymraeg i Blant yn cynnal sesiwn Stori, Symud a Chwarae Anniben yn Yr Atom, Caerfyrddin ar y 15fed o Chwefror 2024. Cynhelir y sesiwn o 10:30am tan 12:30 pm. Bydd y sesiwn yn addas ar gyfer plant hyd at 4 oed ac yn costio £2 y plentyn. Mae niferoedd cyfyngedig felly rhaid cofrestru ar helo@yratom.cymru
Hwyl Hanes Hanner Tymor:
Ar y 12fed o Chwefror bydd y Fenter a chwmni Mewn Cymeriad yn cyflwyno ‘Sioe Llywelyn – Ein Tywysog Olaf? Am 10.30 yn Neuadd San Pedr. Er mwyn cofrestru neu am fwy o wybodaeth cysylltwch ar betsan@mgsg.cymru Mynediad yn £4 i blant ac oedolion am ddim.
Gweithgareddau Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre:
Cynhelir nifer o weithgareddau yn yr Amgueddfa Wlân ar y cyd rhwng y Fenter a’r Amgueddfa dros y misoedd nesaf. Bydd Stori a Chân am 1:30pm ar ddydd Iau’r 29ain Chwefror 2024, ac eto ar y 21ain Mawrth 2024. I gofrestru cysylltwch ar nia@mgsg.cymru
Bydd Sesiwn Grefft yn Amgueddfa Drefach o 10:30 tan 12:30 ar yr 16eg o Chwefror 2024 ac yna bydd Gŵyl Hwyl yr Amgueddfa ar yr 2il o Fawrth 2024. Am fwy o fanylion cysylltwch ar nia@mgsg.cymru
Cwtsh Natur:
Bydd cyfle i gymdeithasu, creu, cloncan, gwneud bach o arddio a mwynhau dished gynnes a chacen yn y sesiynau Cwtsh Natur a gynhelir yn Yr Ardd, Pont Tyweli o 10yb tan 12yp ar y 19fed o Chwefror, y 9fed o Fawrth, y 13eg o Ebrill a’r 11eg o Fai. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ar llinos.cbw@gmail.com
Sŵn Sir Gâr:
Bydd cystadleuaeth newydd Sŵn Sir Gâr yn cael ei rhedeg rhwng y Mentrau Iaith a Thîm Athrawon Datblygu’r Gymraeg eleni. Gofynnir i fandiau neu artistiaid ifanc oed uwchradd boed yn fandiau newydd neu eisoes wedi’u sefydlu i recordio cân a’i danfon at nia@mgsg.cymru erbyn yr 21ain o Chwefror. Bydd yr artist llwyddiannus yn ennill gweithdy cyfansoddi gyda Mei Gwynedd a gig gyda Dros Dro. Am fwy o fanylion neu os oes gennych unrhyw gwestiwn cysylltwch ar nia@mgsg.cymru
Cyfryngau Cymdeithasol:
Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:
Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar
Trydar – @MenterGSG
Instagram – @MenterGSG
E-bost – ymholiad@mgsg.cymru neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch â ni ar y ffôn: 01239 712934.












