
Siaradwyr Newydd:
Adduned blwyddyn newydd i siarad mwy o Gymraeg neu i fynd allan i gymdeithasu? Dewch i ymuno gyda’n sesiynau siarad ni! Mae croeso i siaradwyr newydd a rhugl ymhob un.
Mae Coffi a Chlonc yn gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd hon yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gydag ymholiad@mgsg.cymru
Mae’r Fenter yn cyd-drefnu sesiynau Paned a Sgwrs yng Nghaffi’r Atom, bob dydd Mawrth o 10-11yb. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned.
Cynhelir sesiynau Paned a Phapur yn yr Amgueddfa Wlân, Drefach Felindre ar ddydd Mercher bob pythefnos. Ac mae sesiynau Shwmae a Siarad yn cael eu cynnal unwaith y mis ar fore Gwener yng Nghaffi Cwtsh Coffi, yr hen glwb pêl-droed, Castell Newydd Emlyn rhwng 10:30-11:30. Edrych ymlaen i’ch gweld yno.
Am unrhyw wybodaeth am ein sesiynau, cysylltwch gydag ymholiad@mgsg.cymru
Sesiynau stori:
Mae ein sesiynau stori yng Nghaerfyrddin ac yn San Clêr yn parhau bob pythefnos. Yng Nghaerfyrddin ar ddydd Llun yn Llyfrgell Caerfyrddin am 10:30am ac yn Llyfrgell San Clêr, Y Gât am 1:30pm ar ddydd Iau. Ymunwch â ni yn y sesiynau stori yma. Cysylltwch gyda gwyneth@mgsg.cymru i gofrestru neu am wybodaeth pellach.
Clybiau Drama:
Mae’r Fenter a Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig dau glwb drama i blant yr ardal, Clwb Joio Drama ar gyfer blynyddoedd 1-3 ar nos Fercher o 5-5.45pm ac i flynyddoedd 4-6 o 6-7pm. Mae’r clybiau yn cael eu cynnal yn y Stiwdio, Theatr y Lyric, Caerfyrddin. Cyfle i blant ddysgu sgiliau, magu hyder a mwynhau. I gofrestru, cysylltwch gyda betsan@mgsg.cymru Diolch i Theatrau Sir Gâr am y croeso cynnes i’r theatr yn wythnosol.
Gwirfoddoli:
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae criw o bobl ifanc yr ardal wedi bod yn gwirfoddoli yn nigwyddiadau’r Fenter, megis clybiau drama, Gŵyl Canol Dre, Gŵyl Fach Newy’, Ras Fach y Wiber a sesiynau amrywiol eraill ac mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn ddiolchgar iawn am eu gwaith a’u hamser.
Mae’r profiad o wirfoddoli’n lleol yn fwy na rhoi rhywbeth nôl i’r gymuned, ond hefyd yn gyfle i fagu hyder, datblygu sgiliau trosglwyddiadau cyffredinol yn ogystal â sgiliau byd gwaith. Mae cyfleoedd gwirfoddoli’r Fenter yn seiliedig ar gyfranogiad sy’n dangos arfer gorau a chynnig cyfle i gymryd cyfrifoldeb ac i wneud penderfyniadau. Mae’r Fenter yn bendant yn gwerthfawrogi gwaith ein gwirfoddolwyr ac yn gweld eu gwerth yn wythnosol. Os oes diddordeb gyda chi mewn gwirfoddoli gyda’r Fenter, cysylltwch gyda ni ar 01239 712934 / ymholiad@mgsg.cymru
Gig Bwncath, Dros Dro a Gelert:
Nos Wener 2il Chwefror 2024 cynhelir gig yn Undeb Myfyrwyr PCYDDS, Caerfyrddin. Bydd y gig yn gyfle i ni ddathlu Dydd Miwsig Cymru mewn steil! Bydd y gig yn gyfle i glywed Gelert, band ifanc o Sir Benfro; Dros Dro, band ifanc gyda’r aelodau’n ddisgyblion neu’n gyn-ddisgyblion o Fro Myrddin a Maes y Gwendraeth ac wrth gwrs, y band enwog a phoblogaidd, Bwncath. Bydd yn addas ar gyfer unigolion 16+ ac yn dechrau am 8 yh. Tocynnau cynnar yn £12 ac £15 wrth y drws. Gellir prynu tocynnau o flaen llaw trwy ddefnyddio’r ddolen https://www.surveymonkey.com/r/GIGChwe23
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ar betsan@mgsg.cymru.
Holiadur Profi i bobl ifanc:
Mae ein prosiect Profi’n mynd o nerth i nerth. Prosiect sy’n helpu pobl ifanc gyda sgiliau byd gwaith ydyw. Gellir gweld adnoddau Profi a chyfres o ffilmiau a phodlediadau defnyddiol trwy gofrestru ar wefan www.profi.cymru
Er mwyn cael cyfle i ennill podiau clust ac er mwyn cael dweud dy farn, os wyt ti rhwng 14 a 35, gellir llenwi holiadur trwy ddilyn y ddolen yma: https://www.surveymonkey.com/r/Profidylais.
Cyfryngau Cymdeithasol:
Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:
Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar
Trydar – @MenterGSG
Instagram – @MenterGSG
E-bost – ymholiad@mgsg.cymru neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch â ni ar y ffôn: 01239 712934.













