- Advertisement -
Home More News Local News Pobl yng Ngorllewin Cymru yn cael neges – Gallech achub bywydau

Pobl yng Ngorllewin Cymru yn cael neges – Gallech achub bywydau

0
43
- Advertisement -

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cefnogi apêl i bobl ychwanegu eu penderfyniad at Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG a  dweud wrth eu teulu eu bod am achub bywydau

Mae pobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael eu galw i weithredu nawr – oherwydd fe allant achub bywyd. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cefnogi Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG, sy’n goruchwylio rhoi organau yn y DU, i alw ar bawb yng Nghymru i ychwanegu eu henw a’u penderfyniad at Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG. A dweud wrth eu teulu beth maen nhw ei eisiau.

- Advertisement -

Mae tua 93,864 o bobl yn Sir Gaerfyrddin, 41,228 o bobl yng Ngheredigion, a 65,611 o bobl yn Sir Benfro eisoes wedi datgan eu penderfyniad drwy Gofrestr Rhoddwyr Organau y GIG. Fodd bynnag, mae angen i bobl roi gwybod i’w teulu i helpu i wneud yn siŵr bod eu bod yn cefnogi eu penderfyniad pe bai nyrs arbenigol mewn ysbyty yn gofyn iddynt am roi organau. Pan fyddwn yn cysylltu â theulu, bydd 9 o bob 10 teulu yn cytuno i roi organau os ydyn nhw’n gwybod bod aelod o’u teulu ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau ac wedi siarad am eu penderfyniad.

Gall pob rhoddwr organau achub hyd at naw bywyd ar ôl iddynt farw drwy roi eu horganau i gleifion sy’n aros am drawsblaniad.

Daeth pum deg naw o bobl yng Nghymru yn rhoddwyr organau ar ôl eu marwolaeth yn 2021/22. A’r llynedd, derbyniodd 129 o gleifion a oedd yn aros am drawsblaniad yng Nghymru rodd a wnaeth newid eu bywydau.*

Diolch i roddwyr organau anhygoel a’u teuluoedd, mae miloedd o fywydau’n cael eu hachub bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae oddeutu 7,000 o bobl yn dal i aros am eu trawsblaniad, gan gynnwys 228 o bobl yng Nghymru.**

Mae gan bawb ddewis ynghylch a ydynt am roi organau ai peidio. Gallwch gofrestru eich penderfyniad (optio i mewn neu optio allan) ar Gofrestr Rhoddwyr Organau y GIG. Os na fyddwch chi’n cofrestru eich dewis, bydd yn cael ei ystyried nad oes gennych chi unrhyw wrthwynebiad i fod yn rhoddwr organau, a thybir eich bod wedi rhoi’ch cydsyniad.

Mae pobl yng Nghymru yn cael eu hannog i wneud yn siŵr bod eu teulu, a fydd bob amser yn rhan o’r broses os yw rhoi organau yn bosibilrwydd, yn gwybod beth maen nhw ei eisiau fel y gallant gefnogi eu penderfyniad i achub bywydau. Drwy ychwanegu eich enw a’ch penderfyniad at y gofrestr a dweud wrth eich teulu, ni fydd ganddynt unrhyw amheuaeth.

Dywedodd Judith Hardisty, Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chadeirydd ei Bwyllgor Rhoi Organau: “Mae gwybod beth mae eich perthynas ei eisiau yn helpu i gefnogi penderfyniadau teuluoedd ynghylch rhoi organau ar adeg sy’n aml yn anodd.

“Rydym yn annog mwy o bobl i gofrestru eu penderfyniad a siarad â’u hanwyliaid am roi organau i roi’r sicrwydd sydd ei angen arnynt i gefnogi eu penderfyniad i roi organau.”

Dywedodd Anthony Clarkson, Cyfarwyddwr Rhoi a Thrawsblannu Organau a Meinwe, Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG: “Fe allech chi achub bywydau, sy’n etifeddiaeth anhygoel i’w gadael – mae rhoi organau’n achub bywydau.

“Ymgynghorir â theuluoedd bob amser cyn i’r broses o roi organau fynd rhagddi ac maent yn fwy tebygol o gefnogi eich penderfyniad os ydynt yn gwybod mai dyna oedd eich dymuniad.

“Ychwanegwch eich enw a’ch penderfyniad at Gofrestr Rhoddwyr Organau y GIG i helpu i achub mwy o fywydau. Dim ond dau funud mae’n ei gymryd i gofrestru i achub bywydau ar-lein.”

Chwiliwch am roi organau ar-lein, ewch i www.organdonation.nhs.uk.

- Advertisement -
Previous article15 Council Houses Stand Empty On Blighted Estate
Next articlePeople in West Wales called to act now – You could be a lifesaver
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content