- Advertisement -
Home More News Local News PRYDAU YSGOL AM DDIM I BAWB A MYND I’R AFAEL Â’R ARGYFWNG...

PRYDAU YSGOL AM DDIM I BAWB A MYND I’R AFAEL Â’R ARGYFWNG TAI: PLAID CYMRU YN LANSIO YMGYRCH ETHOLIAD LLYWODRAETH LEOL

0
53
- Advertisement -

“Dyma Blaid Cymru ar ei gorau: gweithredu a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl” – Arweinydd Plaid Cymru Adam Price

Darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl, diogelu swyddi ac incwm, a mynd i’r afael â’r argyfwng tai fydd prif flaenoriaethau Plaid Cymru ar gyfer yr etholiadau lleol sydd i ddod, meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price.

Bydd Plaid Cymru yn lansio eu hymgyrch etholiad llywodraeth leol a’u maniffesto heddiw (dydd Gwener 8 Ebrill 2022) yng Ngwesty’r Quay yn Neganwy, Conwy.

- Advertisement -

Wrth ganmol record cynghorau a chynghorwyr Plaid Cymru, mae disgwyl i Arweinydd Plaid Cymru Adam Price amlinellu llwyfan polisi “uchelgeisiol” ei blaid fydd yn “adnabod y problemau, yn cynnig atebion, ac yn bwysicaf oll, yn profi sut mae cael cynghorwyr Plaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru”.

Mae disgwyl i Mr Price ailadrodd ei brif addewid y bydd pob cyngor dan arweiniad Plaid Cymru yn ymrwymo i’r nod o ymestyn Cinio Ysgol Am Ddim i ddisgyblion uwchradd o fewn tymor nesaf y cyngor – gyda ffocws ar brydau maethlon o ffynonellau lleol. Mae’r blaid eisoes wedi sicrhau prydau ysgol am ddim i blant ysgol gynradd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i Mr Price hefyd amlinellu’r polisïau blaenllaw a ganlyn:

•       Mynd i’r afael ag argyfwng tai Cymru drwy adeiladu tai cymdeithasol mwy ynni-effeithlon a charbon-bositif, mwy o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy, cymryd camau radical ar ail gartrefi a rhoi diwedd ar ddigartrefedd.

•       Gofal Plant am Ddim i bob plentyn dwy oed

•       Manteisio ar botensial Cymru ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned, fel rhan o darged i gyrraedd Allyriadau Di-Garbon Net erbyn 2030

•       Cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a chefnogi busnesau lleol, i ddiogelu swyddi ac incwm lleol.

Daw’r etholiad ar adeg “heriol” i gymunedau ledled Cymru gan fod disgwyl i’r argyfwng costau byw adael y cartref cyffredin yng Nghymru o leiaf £600 yn waeth eleni – gyda phrisiau cynyddol am hanfodion bob dydd a biliau ynni yn rhoi pwysau ar incwm. Fodd bynnag, addawodd Mr Price y byddai cynghorau a chynghorwyr Plaid Cymru yn parhau i “weithredu” a “gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau bob dydd pobl” yn wyneb yr heriau hyn.

Bydd arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn ymuno yn y lansiad gyda llu o ymgeiswyr llywodraeth leol ei blaid gan gynnwys Sue Lloyd-Williams, ymgeisydd Ward Llansannan ac Aaron Wynne, ymgeisydd dros Ward Llanrwst, Llanddoged a Maenan, ym Mwrdeistref Sirol Conwy.

Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS,

“Mae Cymru’n wynebu sawl her wrth wynebu’r etholiad hwn -heriau sy’n gofyn am leisiau lleol cryf sy’n gwrthod derbyn hyn cystal ag y mae’n ei gael i’n cymunedau.

“Mae gan gynghorwyr Plaid Cymru hanes cryf o sefyll ochr yn ochr â phobl y maen nhw’n eu cynrychioli – o redeg banciau bwyd i arwain y gwaith glanhau ar ôl llifogydd. A thros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pedwar Arweinydd Cyngor Plaid Cymru a’u timau wedi mynd gam ymhellach i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn eu cymunedau drwy sicrhau bod plant yn gallu parhau i ddysgu, busnesau barhau i fasnachu, a gwasanaethau allweddol yn gallu parhau megis casglu sbwriel.

“Mae’r ysbryd hwnnw wedi’i ymgorfforio yn y maniffesto rydyn ni’n ei lansio heddiw cyn yr Etholiadau Lleol. Dyma rhaglen o bolisïau sy’n adnabod problemau, yn cynnig atebion, ac yn bwysicaf oll, yn profi sut mae cael cynghorwyr Plaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae disgwyl hefyd i Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS ddweud,

“Mae Plaid Cymru eisoes wedi sicrhau prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Nawr, rydym am fynd ymhellach. Dyna pam, ein prif gynnig yn yr ymgyrch hon yw y bydd cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru yn anelu at ymestyn Prydau Ysgol Rhad ac Am Ddim i ddisgyblion uwchradd o fewn tymor nesaf y cyngor.

“Byddwn yn mynd i’r afael ag argyfwng tai Cymru drwy adeiladu tai mwy ynni-effeithlon, gwirioneddol fforddiadwy, a chymryd camau radical ar ail gartrefi a rhoi diwedd ar ddigartrefedd. A byddwn yn cryfhau cadwyni cyflenwi lleol ac yn cefnogi busnesau lleol – gan ddiogelu swyddi ac incwm lleol yng nghanol argyfwng costau byw.

“Dyma Blaid Cymru ar ei gorau – yn gweithredu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pob dydd pobl.

- Advertisement -
Previous article‘Despicable Scam Targeting Unpaid Carers’ Says Llanelli MS
Next articleFREE SCHOOL MEALS FOR ALL AND TACKLING WALES’ HOUSING CRISIS: PLAID CYMRU LAUNCH LOCAL GOVERNMENT ELECTION CAMPAIGN
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content